Gr诺p Ymchwil Eithafion yn bresennol mewn cynhadledd ryngwladol o fri
Mae pedwar crynodeb o eiddo Dr Jamie Macdonald a鈥檌 fyfyriwr PhD, Dr Naushad Junglee, wedi cael eu derbyn ar gyfer cyflwyniad yn Wythnos Arennau 2012, cyfarfod pwysicaf y byd ar arenneg, a gynhelir gan Gymdeithas Arenneg America. Mae鈥檙 awduron yn arbennig o falch fod un crynodeb, yn deillio o gydweithrediad gan y Gr诺p Eithafion gyda鈥檙 Athro Neil Walsh a Dr Matt Fortes, i鈥檞 gyflwyno ar lafar. Cwblhaodd y Gr诺p Eithafion astudiaeth yn ymchwilio i swyddogaeth niwed ar y cyhyrau yn deillio o ymarfer, mewn achosion o Anaf Llym ar yr Arennau. Meddai Jamie, 鈥淕all Anaf Llym ar yr Arennau arwain at ganlyniadau difrifol, ac mae鈥檔 syfrdanol o gyffredin mewn rhai poblogaethau, er enghraifft milwyr ar gad-drefniadau mewn amgylcheddau poeth. Yr astudiaeth hon yw鈥檙 gyntaf i wahanu ac i greu, yn arbrofol, amryw o ffactorau risg y cymerir eu bod yn achosi Anaf Llym ar yr Arennau. Mae鈥檙 astudiaeth yn nodi targedau newydd i gynorthwyo i atal y cyflwr hwn, a allai fod yn berygl einioes.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012