Gofal Iechyd Darbodus - Bangor yn ymchwilio i ffyrdd o gynorthwyo Llywodraeth Cymru
Ymwelodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â Phrifysgol Bangor i ymweld â (WCBC) a thrafod agenda Gofal Iechyd Darbodus y llywodraeth. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ar hyn o bryd yn ysgrifennu pennod ar gyfer yr e-lyfr Gofal Iechyd Darbodus () er mwyn cynorthwyo i ledaenu gwybodaeth am wyddor newid ymddygiad ym maes gofal iechyd darbodus.
Dywedodd Alex Hicks, Pennaeth Strategaeth Iechyd, "Mae'r Ganolfan Newid Ymddygiad wedi cyfrannu pennod i'r adnodd ar-lein - - yn disgrifio'r angen am ddulliau newid ymddygiad i hyrwyddo gofal iechyd darbodus yng Nghymru. Gwnaethom ymweld â Bangor yn ddiweddar i glywed mwy am waith arweiniol y ganolfan ac ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio ar ofal iechyd darbodus."
Mae Deon Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, yr Athro Nicky Callow, yn obeithiol y gallai hyn fod yn ddechrau ar berthynas fuddiol i'r ddwy ochr gan ddweud "Roeddem wrth ein bodd yn croesawu dirprwyaeth o Uned Strategaeth Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, a thraddodi cyflwyniad ar yr ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad sy'n ymwneud â newid ymddygiad ac agenda gofal iechyd darbodus y llywodraeth". Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol iawn a roddodd gyfle i'r ymchwilwyr hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar weithredu ymarfer a pholisi."
Cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd Alex Hicks (Pennaeth Strategaeth Iechyd), Tom James (Pennaeth Polisi Iechyd a Chyfoeth (Arloesi), Ashley Gould (Cofrestrydd Arbenigol mewn Iechyd Cyhoeddus) a Hywel Williams (Rheolwr Strategaeth Iechyd) a chynrychiolwyd Bangor gan yr Athro Nicky Callow (Deon Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad), yr Athro Jo Ryecroft-Malone (Pennaeth Gwyddorau Gofal Iechyd), Dr John Parkinson (Pennaeth Seicoleg) a Dr Carl Hughes (Canolfan Newid Ymddygiad Cymru).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2014