鈥楩ood Dudes鈥 i achub plant rhag 鈥楪eneral Junk鈥
Yng Ngwledd Lifrai Flynyddol Cwmni Anrhydeddus y Ffrwythwyr, a gynhaliwyd yn y Mansion House yn Llundain ar 17 Chwefror 2011, bu鈥檙 Athro Fergus Lowe, cyd-gyfarwyddwr rhaglen Food Dudes lwyddiannus Prifysgol Bangor, yn rhoi araith i westeion adnabyddus. Yn eu mysg roedd Arglwydd Faer Dinas Llundain a鈥檙 Siryddion, Uchel Gomisiynydd Seland Newydd, Deon Cadeirlan Caergaint, pedwar o benaethiaid y Lluoedd Arfog, Comisiynydd Heddlu Dinas Llundain, cynrychiolwyr uwch o鈥檙 gyfraith, Meistri pedwar urdd lifrai arall, yn ogystal ag arweinwyr y diwydiant cynhyrchu ffrwythau.
Yn ei anerchiad fel y G诺r Gwadd, trafododd yr Athro Lowe ordewdra, gan ei ddisgrifio fel her iechyd fwyaf ein cyfnod, a sut y gellir newid ymddygiad pobol mewn modd positif a buddiol gan ddefnyddio technegau a ddatblygwyd gan seicolegwyr ymddygiad.
Mae鈥檙 rhaglen, sy鈥檔 cael ei chynnal mewn ysgolion cynradd, yn defnyddio pedwar cymeriad cart诺n - y Food Dudes - i annog plant i ddatblygu hoffter at ffrwythau a llysiau, a鈥檜 hannog i鈥檞 bwyta gartref a bod yn falch o fod yn fwytawyr iach.
Nid yn unig mae鈥檙 rhaglen yn un bleserus i rieni, plant ac athrawon, mae hefyd yn dod 芒 chynnydd mawr a pharhaol ym maint y ffrwythau a鈥檙 llysiau mae鈥檙 plant yn eu bwyta, a gwelliant yn arferion bwyta鈥檙 rhieni eu hunain.
Dywedodd yr Athro Lowe wrth y gynulleidfa: 鈥淢ae hon yn rhaglen effeithiol iawn sy鈥檔 cael effaith fawr ar iechyd a lles. Mae ganddi鈥檙 potensial i arbed costau mawr i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd ac i osgoi trallod i blant a鈥檜 teuluoedd. Mae鈥檔 sicr yn costio llai, ac yn llawer mwy o hwyl, na llawdriniaeth i osod beltiau gastrig. Hon ydi鈥檙 unig raglen yn y maes yma sy鈥檔 gweithio, er i symiau enfawr o arian y llywodraeth gael eu gwario dros y blynyddoedd ar bob math o fentrau sydd, i gyd yn eu tro, wedi profi鈥檔 aneffeithiol i geisio atal epidemig gordewdra.鈥
Gorffennodd yr Athro Lowe ei araith gan ddiolch i Gwmni鈥檙 Ffrwythwyr am ddarparu tair blynedd o arian ar gyfer swydd cyd-drefnydd cenedlaethol i ledaenu鈥檙 rhaglen ym Mhrydain, ac yn benodol i鈥檙 Cyn Feistr Sibley a鈥檙 Warden Rhentiwr, yr Athro Price, am eu hamser a鈥檜 harbenigedd.
Hyd yma, mae鈥檙 Rhaglen wedi ei defnyddio ym mhob ysgol gynradd yn Iwerddon ac wedi ennill gwobr Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) am ei llwyddiant yn trechu gordewdra. Mae鈥檙 cynllun wedi鈥檌 ymestyn i ysgolion yn Wolverhampton a鈥檙 llynedd fe enillodd Wobr Medal Aur y Prif Swyddog Iechyd. Mae鈥檙 t卯m yn gobeithio y bydd cynllun y Food Dudes yn cael ei ledaenu ymhellach yn Lloegr a Chymru a gwledydd eraill yn y blynyddoedd i ddod.
Mae yna raglenni鈥檔 cael eu cynnal mewn ysgolion yn yr Eidal ac yn America.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011