Ffordd Pawb/ Coherent Connections- project arloesi yn dod i Fangor
Mae myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project rhyngwladol arloesol a all ddarparu atebion newydd creadigol i broblemau modern cymhleth a wynebir ym Mangor, yn ogystal â chymunedau eraill.
Mae'r chwe myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu eu gwybodaeth ar y cyd am seicoleg, twristiaeth a busnes i , sef project sy'n dod â myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau a gwledydd at ei gilydd i gyfuno eu gwybodaeth er mwyn datrys problemau. Mae Elop yn golygu "llwyfan dysgu a gweithredol sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd" ac mae'n agwedd newydd ar ddysgu sy'n rhoi'r sgiliau a'r dulliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael gyrfa ddeinamig mewn dyfodol cymhleth a heriol.
Yn y project Ffordd Pawb/ Coherent Connections, bydd y myfyrwyr yn rhoi sylw i faterion go iawn ac yn asesu dyfodol Bangor, gan edrych yn benodol ar symudedd, yr economi rhannu, twristiaeth a syniadau newydd ynglŷn â sut y darperir gwasanaethau. Datblygwyd y syniadau hyn wrth o ymgynghori â budd-ddeiliaid yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru ac yn bwysicach, trigolion a busnesau Bangor.
Eglurodd yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg:
"Mae ein cymdeithasau heddiw yn wynebu "problemau drwg" - yr heriau cymhleth sy'n ymddangos fel na pe bai’n bosib i'w datrys fel gordewdra, newid yn yr hinsawdd ac adfywio economaidd a chymdeithasol. Yr ateb yw dod ag arbenigwyr o wahanol feysydd at ei gilydd i gyfuno eu gwahanol safbwyntiau ac arbenigedd mewn timau trawsddisgyblaethol. Yna, mae'r grwpiau hyn yn datblygu gwybodaeth unigryw am y broblem ac yn llunio atebion arloesol sy'n cael eu cyd-greu yn uniongyrchol gyda'r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio gan eu syniadau.
"Bydd ein myfyrwyr yn gweithio ar broject go iawn a fydd yn ystyried dyfodol Bangor, yn datblygu cynigion a all drawsnewid ffyniant y ddinas yn barhaol. Mae gwerth deublyg i hyn. Nid yn unig y gall myfyrwyr gymryd rhan mewn proses sy'n torri tir newydd, ond caiff syniadau hollol arloesol eu datblygu hefyd, yn cyflwyno'r gallu am newid go iawn."
Cynhelir y digwyddiadau ym Mangor yn . Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio, ac arweinydd elop*9 ym Mangor:
"Mae'n fraint bod elop wedi dod i Fangor eleni. Mae’n brofiad anhygoel i fyfyrwyr a bydd yn ysbrydoli cynigion newydd am newid cadarnhaol i'r ardal."
Meddai cydlynydd rhyngwladol elop, Kathrin Merz, ym Mhrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Bern yn y Swistir, “Rydym wedi datblygu proses a llwyfan elop* dros nifer o flynyddoedd, gan ddatblygu projectau o amgylch y byd yn cynnwys yn y Swistir, yr Almaen, Stanford, yr Unol Daleithiau, a Querétaro, Mecsico. Rwy'n falch iawn ein bod ym Mangor yn awr ac rydym yn edrych ymlaen at weld y broses elop* yn dechrau yma dros y misoedd nesaf."
Cynhelir y project elop*9 ym Mangor am y tri mis nesaf gyda chyfnod o gydweithio rhithiol rhwng cyfarfodydd ffisegol ym Mangor ym mis Hydref 2016 ac Ionawr 2017. Caiff ei gynnal yn safle Pontio Arloesi fel rhan o Arloesi Pontio.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016