Dyfodol pryd y gallai lensys cyffwrdd 鈥榙eallus鈥 ddarogan eich risg o gael annwyd cyffredin: Gwrthgyrff hylif dagrau a鈥檙 annwyd cyffredin
Pam y gall rhai pobl fynd trwy gydol y gaeaf heb yr arwyddion lleiaf o annwyd, tra bo eraill fel pe baent yn cael pob annwyd sy鈥檔 mynd o gwmpas?
Yn 么l gan Gr诺p Ymchwil Prifysgol Bangor i Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gallai fod modd rhagweld y tebygolrwydd i gyfranogwyr gael annwyd cyffredin trwy ddadansoddi lefel y gwrthgyrff mewn hylif dagrau.
Mae imiwnoglobwlin secretu A (SIgA) yn wrthgorff pwysig sy鈥檔 gweithredu fel 鈥榬heng flaen yr amddiffyn鈥 i atal firysau a bacteria rhag mynd i mewn i鈥檙 corff. Mae digonedd o SIgA ar gael mewn secretiadau mwcosaidd megis poer, dagrau a rhedlifau鈥檙 trwyn, yn ogystal ag ym mwcws y llwybrau anadlu ac yn y coluddion.
Wrth gasglu samplau bach iawn o hylif dagrau o鈥檙 amrant isaf a dadansoddi SIgA, sylwodd yr Athro Neil Walsh a鈥檌 d卯m fod unigolion 芒 lefelau isel o SIgA hylif dagrau hyd at naw gwaith yn fwy tebygol o brofi symptomau annwyd cyffredin o fewn yr wythnos ddilynol, wrth ochr unigolion 芒 secretiadau SIgA arferol yn eu dagrau. Ar ben hynny, pan oedd SIgA dagrau rhywun yn lleihau o ~30%, roeddent chwe gwaith yn fwy tebygol o gael annwyd.
Mewn ymchwiliadau dilynol, cafwyd lleihad o SIgA dagrau ar 么l straen corfforol yn dilyn ymarfer hir; effaith a adwaenir fel y 鈥榝fenestr agored鈥 lle ceir lleihad dros dro mewn imiwnedd ar 么l ymarfer trwm, fel bod unigolion yn fwy agored i heintiau megis yr annwyd cyffredin.
Eglurodd yr Athro Walsh fel a ganlyn: 鈥淢ae galw arbennig am ddulliau amser-real, heb fod yn fewnwthiol, o fonitro gweithrediad imiwnedd, er mwyn canfod sut y mae athletwr yn ymateb i hyfforddiant. Er bod hyfforddiant straenus yn gwella ffitrwydd a pherfformiad, gall hyfforddiant trwm estynedig leihau imiwnedd a chynyddu perygl unigolyn o gael annwyd, ac o bosibl heintiau eraill hefyd.鈥
Walsh a鈥檌 gydweithwyr yw鈥檙 rhai cyntaf i edrych ar bosibiliadau dadansoddi hylif dagrau o ran canfod newidiadau mewn imiwnedd ac amledd heintiau resbiradol. Yn ddiweddar, mae hylif dagrau wedi ennyn cryn ddiddordeb fel cyfrwng ar gyfer monitro biofarcwyr eraill mewn modd nad yw鈥檔 fewnwthiol. Yn 2012, dangosodd Walsh a鈥檌 gydweithwyr fod modd defnyddio hylif dagrau i ganfod statws hydradiad trwy ddefnyddio dyfais osmolaredd, a鈥檙 llynedd, dadorchuddiodd Google a Novartis lens gyffwrdd 鈥榙deallus鈥 a chanddi鈥檙 gallu i ganfod lefelau glwcos y gwaed yn achos cleifion diabetig.
Medd Walsh: 鈥淓fallai y caiff mesuriadau mesur imiwnedd trwy ddagrau eu cynnwys, cyn hir, mewn lensys cyffwrdd 鈥榙eallus鈥 sy鈥檔 gallu monitro鈥檔 barhaus amddiffyniad y corff a鈥檌 risg o gael heintiau.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015