Dwy o Brifysgol Bangor ar Restr Fer Gwobrau Merched Cymru
Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau newydd Gwobrau Merched Cymru 2019. Mae Clare Wilkinson a Debbie Roberts, ill dwy o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol, wedi eu gosod ar y rhestr fer am eu Gwasanaethau i Addysg.
A hithau’n Athro mewn Meddygaeth Teulu ym Mhrifysgol Bangor, mae Clare yn arwain Canolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru (North Wales Centre for Primary Care Research) ac yn cynnal ymchwil i wella gofal cychwynnol a diagnosis canser cynnar ar gyfer pobl yng Nghymru.
Ymunodd yr Athro Debbie Roberts â Phrifysgol Bangor yn 2016 gan dderbyn Cadair mewn Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS) mewn Dysgu Practis (Practice Learning). Mae ei rôl unigryw yn pontio ymarfer clinigol ac addysgu.
Bydd y digwyddiad ‘tei-du’ yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Exchange, Caerdydd, nos Fercher Ebrill 3, pan fydd y merched ysbrydoledig hyn yn dod ynghyd i ddathlu eu cyraeddiadau.
Chwaraeodd yr Athro Clare Wilkinson ran hanfodol wrth arwain y gwaith i ddod â’r nawdd gwreiddiol i sefydlu Ysgol Glinigol Gogledd Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n gyn-gadeirydd diweddar ar Banel Gofal Cychwynnol y National Institute for Health, Health Technology Assessment Programme, ac mae hi wedi ennill dros £13M mewn grantiau ymchwil sydd wedi ei harfarnu gan gyfoedion, a £6M ar gyfer isadeiledd ymchwil ac mae wedi cyfrannu at dros 150 o bapurau ymchwil sydd wedi eu harfarnu gan ei chyfoedion.
Meddai:
“Mae’n fraint cael fy enwebu ochr yn ochr â merched mor flaengar, ac rwy’n ymhyfrydu wrth weld yr holl gategorïau a’r merched sy’n eu poblogi.â€
Mae rôl unigryw’r Athro Debbie Roberts yn ei galluogi i weithio gyda myfyrwyr Prifysgol Bangor ac efo nyrsys sydd wedi cymhwyso, yn ogystal â phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei phrif ffocws yw ymestyn a datblygu amgylcheddau dysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio’r Brifysgol ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG yng Ngogledd Cymru. Yn ystod ei gyrfa 19 blynedd yn maes academia, mae Debbie wedi cyhoeddi’n eang ym maes addysg nyrsio, gan gynnwys papurau academaidd a gwerslyfrau addysg nyrsio, gydag un ohonynt yn werslyfr sylfaen yn Siapan.
Wrth ymateb i’w henwebiad ar gyfer Gwobrau Merched Cymru, dywedodd Debbie:
“Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy enwebu am wasanaeth i addysg a bod ymhlith merched mor flaenllaw o bob cwr o Gymru.â€
Nod Gwobrau Merched Cymru 2019 yw cydnabod a dathlu llwyddiant merched, boed yn entrepreneuriaid, yn gweithio ym myd busnes, mewn meysydd proffesiynol, y gwasanaeth sifil, mewn lifrai, yn gweithio i’r sector elusennol a llawer mwy, sydd yn cyfrannu at wneud Cymru yn wlad wych i fyw ynddi. Mae’r Gwobrau’n ymgorffori cryfder a phendantrwydd parhaus merched, gan barchu’r rhai sydd yn parhau i ffynnu yn eu meysydd.
Meddai unigolyn ar ran Gwobrau Merched Cymru 2019:
“Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu pŵer ac ehangder y talent sydd wrth wraidd pob merch a’r gwaith caled gan ferched arwrol, sydd yn aml ddim yn cael ei gydnabod.
“Rydym yn hapus i weld ymwneud mawr gan y cyhoedd a ymunodd yn y broses enwebu i ethol eu hoff bersonoliaethau sydd wedi dilyn eu breuddwydion a chyflawni eu nodau.
“Rydym yn gobeithio y bydd y merched yn y rownd derfynol yn ysbrydoli merched eraill i ddilyn yn ôl eu hesiampl ac yn edrych ymlaen at groesawu merched sydd yn haeddu canmoliaeth i seremoni fythgofiadwy. Rydym yn dymuno’n dda i bawb sydd yn y rownd derfynol.â€
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019