Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd
Cynhaliwyd seminar: "Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif" a drefnwyd gan y (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd bod cost tynnu dannedd wedi costio dros £50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed.
Daeth prif ymchwilwyr mewn economeg iechyd ac iechyd cyhoeddus deintyddol o bob cwr o'r DU at ei gilydd yn y seminar hon i drafod, cyflwyno a gosod rhaglen ar gyfer dyfodol ymchwil gofal deintyddol. Cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Paul Brocklehurst, Cyfarwyddwr ym Mhrifysgol Bangor ac Ymgynghorydd er Anrhydedd mewn ; Dr Dwayne Boyers o'r ym Mhrifysgol Aberdeen, yr Athro Cynthia Pine o Prifysgol Queen Mary Llundain a'r Dr. Victory Ezeofor o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor.
Roedd adroddiad gan yn 2018, yn nodi bod iechyd y geg mewn plant yn wael gyda'r cyfraddau dannedd drwg uchaf mewn plant 3, 5 a 12 oed. mewn plant ledled y Deyrnas Unedig gyda dros chwarter o blant pump oed yn dioddef pydredd mewn sawl dant. Mae hwn yn gost uchel y gellir ei osgoi i'r GIG, yn enwedig wrth ystyried mai dyna'r rheswm mwyaf cyffredin pam bod plant yn ymweld ag Adrannau Brys mewn ysbytai.
Mae dannedd drwg mewn plant yn gysylltiedig â thlodi gyda nifer o astudiaethau yn dangos bod iechyd y geg yn waeth mewn plant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Dyma un o'r dangosyddion anghydraddoldeb mwyaf nodedig mewn iechyd ar draws y DU.
Cododd y seminar gwestiynau pwysig ynglŷn â mynediad i ofal deintyddol, darpariaeth mewn ysgolion a'r contract deintyddol, hynny yw, sut y telir deintyddion.
Pwysleisiodd yr Athro Paul Brocklehurst nad oes un ffordd benodol yn gweithio mewn gofal deintyddol ac awgrymodd bod angen newid sut caiff contractau llawdriniaethau deintyddol eu rheoli yn y GIG.
Cododd y Dr Dwayne Boyers y cwestiwn - a ddylai'r GIG dalu am fudd-daliadau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, megis yr agwedd gosmetig a chael sicrwydd trwy ddigennu a llathru dannedd mewn system gofal iechyd a gyllidir gan arian cyhoeddus, hyd yn oed os nad ydynt yn effeithiol yn glinigol ac yn angenrheidiol ond bod pobl yn eu gwerthfawrogi?
Mae ymchwil yr Athro Cynthia Pine yn Tayside, yr Alban, wedi casglu data ar gyfer rhaglen brwsio dannedd ers bron i ddwy ddegawd. Bellach mae ganddynt ddata dilynol ar gyfer cyfranogwyr a ddechreuodd y rhaglen yn 5 oed ac sydd bellach yn oedolion 23 oed. Mae datblygu patrwm o frwsio dannedd o oed cynnar, fel rhan o drefn amser gwely wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar iechyd y geg a'u gofal deintyddol fel oedolion, gydag arbedion cost cysylltiedig.
Dywedodd Dr Victory Ezeofor a Dr Joanna Charles y dylai gwerthusiad economaidd iechyd o raglenni gofal deintyddol fod yn sail wybodaeth i gomisiynu gwasanaethau, ond mae defnyddio'r dull priodol i gasglu'r dystiolaeth yn heriol.
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor,
"Mae'r achos economaidd dros atal lleihau anghydraddoldebau iechyd a chostau y gellir eu hosgoi i'r GIG yn amlwg mewn gwasanaethau deintyddol".
Meddai, "Rydym yn awyddus i weithio gydag economegwyr iechyd eraill ledled y DU i ddatblygu'r dulliau mwyaf priodol i gofnodi'r costau a'r buddion o ymyriadau cyffredinol wedi'u targedu i blant er mwyn atal dioddefaint a chost diangen".
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019