Darlithydd o Brifysgol Bangor i dderbyn Gwobr Addysgu y DU
Mae Dr Fay Short o Prifysgol Bangor wedi ennill teitl Cymrawd Dysgu Cenedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf y gellir ei hennill am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch. Dr Short yw'r unig Gymrawd o sefydliad addysg yng nghymru eleni.
Dr Short yw’r ail aelod o staff Prifysgol Bangor i ennill y Wobr hon ac, yn hyn o beth, mae hi’n ymuno â Dr Charles Buckley o’r Ysgol Addysg.
Mae’r Cynllun Cymrodoriaethau Dysgu Cenedlaethol, sy’n cael ei roi gan Yr Academi Addysg Uwch, yn cydnabod a gwobrwyo addysgu a dysgu rhagorol, a chyllidir ef gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a’r Adran Cyflogaeth a Dysgu yng Ngogledd Iwerddon (DELNI).
Meddai Dr. Fay Short, “Mae’n bleser gen i gael yr anrhydedd o dderbyn y wobr hon. Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cefnogaeth ryfeddol imi wrth imi ddatblygu fel darlithydd, ac mae’r Tîm Addysgu gwych yn yr Ysgol Seicoleg wedi rhoi cyfleoedd heb eu hail imi ddatblygu fy nyfeisiau newydd ym maes addysgu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn cysylltiad agos â Chymrodyr Dysgu Cenedlaethol yr Academi Addysg Uwch er mwyn rhannu fy syniadau ynglÅ·n ag ysbrydoli dysgu effeithiol a gwella fy arfer dysgu’n fwy fyth.â€
Ochr yn ochr â’i swyddogaeth fel darlithydd a goruchwyliwr ymchwil ar draws y rhaglen is-radd ac ôl-radd, mae Dr Fay Short yn ymgymryd â nifer o swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill. Ar lefel adrannol, hi yw’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Is-radd mewn Seicoleg. Ar lefel sefydliadol, hi yw’r hyrwyddwr rhyngwladoli ar gyfer y Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad, ac mae hi’n gwnselydd mygedol gyda’r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr.
Mae Fay hefyd wedi ymrwymo mewn modd angerddol wrth ei datblygiad proffesiynol ei hun. Ochr yn ochr â’i chymwysterau academaidd mewn Seicoleg, mae ganddi PGCert ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol a PGCert ar gyfer Addysg Uwch, mae hi wedi cwblhau hyfforddiant Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor, mae hi’n hyfforddwr dysgu achrededig gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae hi wrthi ar hyn o bryd yn cwblhau ail radd Meistr mewn Astudiaethau Addysgol. Mae Fay yn glynu’n dynn wrth yr hen ddywediad nad yw dysgu byth yn dod i ben, ac mae ei phenderfyniad i wella ei datblygiad personol o hyd trwy hyfforddiant ffurfiol ac ymarfer adfyfyriol yn cyfrannu at ei llwyddiant fel athrawes.
Mae athroniaeth Fay o ran addysgu yn canolbwyntio ar ffrydiau deuol ysbrydoliaeth ac anogaeth, ac mae ei gwaith yn ceisio cynhyrfu myfyrwyr ynglŷn â dysgu, cefnogi’r rheiny sy’n cael anawsterau, a chyfrannu tuag at ddatblygiad dysg effeithiol ar draws y sector. Mae’r athroniaeth hon wedi datblygu yn ystod ei phrofiad helaeth o ddysgu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd: ôl-radd ac is-radd mewn prifysgolion ac ar lefelau cyn-drydyddol mewn ysgolion a cholegau. Yn benodol, trwy’r profiad o addysgu disgyblion 14-16 oed a oedd wedi’u diarddel o’u hysgolion, daeth i ddeall pwysigrwydd cefnogaeth ac ysbrydoliaeth.
Mewn cydnabyddiaeth o’i llwyddiant, mae Fay wedi ennill yr anrhydeddau uchaf sydd ar gael ar gyfer dysgu ym Mhrifysgol Bangor, sef Gwobr Athro’r Flwyddyn yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn 2012 a Gwobr Cymrodoriaeth Ddysgu ym Mhrifysgol Bangor yn 2011. Mae hi wedi’i chydnabod ar raddfa eang fel arbenigwr addysgu, ac mae ei chydweithwyr yn gofyn yn gyson iddi am gyngor ac arweiniad ar ddulliau addysgu effeithiol; yng ngeiriau un a fu’n bresennol yn y math hwnnw o hyfforddiant, “Rwy’n dysgu cymaint oddi wrthych chi, nid yn unig y cynnwys, ond hefyd sut i addysgu, sut i ysbrydoli, a sut i wneud y cyfan â gwên.â€
Bydd Dr Short yn derbyn ei Gwobr mewn seremoni Wobrwyo sydd i’w chynnal ym mis Hydref eleni. Cyflwynir hyd at 55 o wobrau o £10,000 i gydnabod rhagoriaeth unigol. Bwriad y wobr yw hyrwyddo datblygiad proffesiynol Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol mewn addysgu a dysgu neu agweddau ar addysgeg.
Mae’r Wobr yn agored i’r holl sefydliadau AU a cholegau Addysg Bellach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd â mwy na 100 o fyfyrwyr CALl ac a gyllidir gan HEFCE, HEFCW neu DELNI.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2013