Cyflwyno Gwobr Gwirfoddolwr Cefnogi Cyfoedion y Flwyddyn 2013
鈥淢ae鈥檔 dal i wneud yn si诺r ein bod yn iawn鈥, 鈥淩oedd yn fy nhrin gyda pharch鈥, 鈥淢ae wedi mynd y tu hwnt i鈥檙 hyn oedd angen iddo鈥檌 wneud ac mae鈥檔 debyg y bydd yn parhau i wneud hynny am weddill ei amser yma鈥, 鈥 Mae鈥檔 rhan fawr o鈥檔 gr诺p o gyfeillion鈥濃
Mae鈥檙 teyrngedau a鈥檙 ganmoliaeth gynnes yma鈥檔 dod o enwebiadau dros un myfyriwr penodol ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr Cefnogi Cyfoedion y Flwyddyn Prifysgol Bangor.
Nathan Gibbons, sy鈥檔 20 oed ac yn hanu o Grimsbury, yn Banbury, Swydd Rhydychen yw鈥檙 myfyriwr dan sylw, ac ef a enillodd y wobr am ei waith diflino fel Arweinydd Cyfoed. Derbyniodd wobr o 拢50 a thlws. Mae Nathan yn astudio Seicoleg Glinigol ac Iechyd yn y Brifysgol ac mae鈥檔 gyn ddisgybl yn Ysgol Banbury.
Gwirfoddolodd Nathan fel Arweinydd Cyfoed, wedi ei ddylanwadu gan ei brofiadau ei hun o dan Arweinydd Cyfoed a fu鈥檔 cadw llygad arno yn ystod ei wythnosau cyntaf yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol.
Meddai Nathan: 鈥淩oeddwn yn meddwl bod myfyrwyr eraill yn haeddu鈥檙 un lefel o gefnogaeth, os nad gwell, ag y ces i.鈥
鈥淵n fy ngwaith fel Arweinydd Cyfoed, rwyf wedi cael fy syfrdanu gan sut y gwnaeth pobl dyfu a blodeuo o fewn wythnos o dderbyn ychydig o gefnogaeth.鈥
Disgrifiodd Nathan sut y derbyniodd hyfforddiant ar gyfer y gwaith ar 么l iddo wirfoddoli a chael ei ddethol.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt addasu i fywyd prifysgol. Mae鈥檔 eu paru 芒 myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn, sydd wedi derbyn hyfforddiant i鈥檞 galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn mentora鈥檙 myfyrwyr, yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac yn helpu鈥檙 myfyrwyr newydd i gymdeithasu ac i gynefino 芒鈥檙 ddinas a鈥檙 Brifysgol. Byddant yn rhoi cyngor a gallant gyfeirio鈥檙 myfyrwyr newydd at gefnogaeth academaidd neu fugeiliol os bydd angen.
Mae鈥檙 Cynllun yn un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath yn y wlad ac wedi bod yn ymestyn ac ehangu am dros 15 mlynedd ers y project peilot cyntaf.
Ar ddiwedd y flwyddyn mae pob myfyriwr blwyddyn gyntaf a blwyddyn gyntaf 么l-radd yn cael cyfle i enwebu gwirfoddolwyr ar gyfer y wobr flynyddol. Eleni, enwebwyd dros 40 o blith yr Arweinwyr Cyfoed, ynghyd ag enwebiadau dros Lysgenhadon 脭l-radd ac Arweinwyr Astudiaethau Academaidd, a dyfarnwyd Nathan ar gyfer y wobr. Gwobrwywyd Nathan mewn digwyddiad lle mynegwyd diolch i鈥檙 holl wirfoddolwyr am eu cyfraniad gwerthfawr i fywyd myfyrwyr y Brifysgol.
Dewisodd Nathan astudio ym Mangor oherwydd: 鈥淗eb s么n am yr enw da sydd i Ysgol Seicoleg y Brifysgol, doeddwn i ddim eisiau symud i ddinas fawr: mae Bangor yn ddinas fach ac mae ganddi bob dim rydw i angen, felly rydw i鈥檔 teimlo鈥檔 ddigon cysurus yma.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2013