Cwrs 鈥榁isceral Mind鈥 yn denu meddyliau galluog i Fangor
Am y pumed flwyddyn, croesawodd Prifysgol Bangor ddeugain o wyddonwyr ifanc disglair sy'n astudio'r ymennydd o dros 20 o wledydd yn cynnwys Israel, Colombia, Ecwador, Lithwania a Sri Lanka i'w hysgol haf ryngwladol flynyddol. Cynhaliwyd 鈥楾he Visceral Mind: A Hands-on Course in the Anatomy of Human Cognition鈥 rhwng 1 a 5 Medi. Bu modd cynnal y cwrs oherwydd rhodd werth $225,000 gan Sefydliad James S McDonnell.
Bwriad y cwrs oedd rhoi cyfle i niwrowyddonwyr gwybyddol ifanc a disglair o bedwar ban byd ddod i Fangor i wella eu gwybodaeth am niwro-anatomeg gyda chymorth nifer o academyddion byd-enwog o Fangor a thu hwnt.
Bu cleifion niwrolegol sy'n cyfranogi mewn ymchwil yn y brifysgol yn cymryd rhan mewn cynadleddau achos gan roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu am sut mae gwahanol rannau o'r ymennydd yn gweithio trwy arsylwi ar ddulliau niwrolegol o archwilio a dehongli sganiau o'r ymennydd. Trwy鈥檙 dull hwn daeth niwro-anatomeg yn 鈥榝yw鈥 ac yn berthnasol i鈥檙 myfyrwyr niwrowyddoniaeth wybyddol. 鈥淣i fuasai鈥檙 elfen allweddol hon o鈥檙 rhaglen yn bosibl heb gymorth cleifion y GIG sy鈥檔 cyfranogi鈥檔 gyson yn ein rhaglenni addysgu ac ymchwil, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran,鈥 meddai cyfarwyddwr y cwrs yr Athro Bob Rafal.
Ychwanegodd 鈥淣id oes unrhyw beth a all gymryd lle鈥檙 profiad nodedig o ddyrannu鈥檙 ymennydd dynol, na ffordd well oddysgu, trwy olwg a chyffyrddiad, am yr ymennydd tri dimensiwn.鈥 Ymunodd Dr C. Harker Rhodes, cyd-gyfarwyddwr y cwrs a niwropatholegydd o Ysgol Feddygol
Dartmouth yn UDA, a Dr Toni Valero-Cabre o'r Hospital of the Saltpetrier ym Mharis ynghyd 芒 niwrowyddonwyr eraill o Fangor 芒鈥檙 Athro Rafal wrth ddarparu sesiynau ymarferol dan oruchwyliaeth yn y labordy anatomeg.
Roedd y myfyrwyr a aeth i鈥檙 Ysgol Haf o鈥檙 farn iddynt gael profiad hynod o addysgiadol a phleserus a fydd yn baratoad da iddynt, wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd mewn ystod eang o niwrowyddoniaeth wybyddol. Meddai Victoria Knowland o Brifysgol Llundain, 鈥淢ae sylfaen mewn niwro-anatomeg yn rhoi sail o sgiliau diddorol ac angenrheidiol i unigolion o bob cangen o wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi creu cysylltiadau gwerthfawr, a ffrindiau oes hefyd, gobeithio, ac rwy鈥檔 teimlo iddi fod yn fraint fawr imi fod yn rhan o鈥檙 鈥榞wersyll dysgu鈥 cyntaf hwn yn ymdrin 芒 Chrombil y Meddwl.
Ysgogwyd Dr Susan Fitzpatrick, Is-Lywydd Sefydliad James S. McDonnell, y bu modd cynnal y digwyddiad oherwydd ei chymorth hi, i ddweud, 鈥淩oedd hi mor galonogol gweld cynifer o feddylwyr disglair ifainc yn deffro i ddulliau gwybyddol/ gweithredol o edrych ar anafiadau i鈥檙 ymennydd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2014