Creu Cymrodoriaeth Creu Diwylliannau Gofalu ar gyfer Arweinwyr ac Ysgolheigion Clinigol uchelgeisiol. Nyrsys / Bydwragedd sy'n angerddol am welliant clinigol ac addysg glinigol.
Mae Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch o gyhoeddi eu carfan gyntaf o gymrodyr clinigol sy'n cychwyn ar y rhaglen tuag at wella gofal a phrofiad cleifion.
Mrs Gill Harris Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, BIPBC.
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y Rhaglen Cymrodoriaeth Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Mae'r rhaglen gymrodoriaeth hon yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth, gan roi'r sgiliau iddynt ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella gofal cleifion. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd gofal trwy ymchwil a gwella ansawdd ac rydym yn chwilio am nyrsys a bydwragedd a hoffai ddatblygu'r sgiliau hyn yn gynnar yn eu gyrfa. '
Dr Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol Bangor.
‘Bydd y Cymrodoriaethau yn caniatáu i unigolion archwilio cyfleoedd, ennyn newid, gweithio gyda’r tîm ehangach a datgelu eu dull unigryw eu hunain o nyrsio neu fydwreigiaeth. Fel Ysgol ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi'r rhaglen ac i weithio mewn partneriaeth â BIPBC. Fel sefydliad, mae’r Gymrodoriaeth newydd yn adlewyrchu cyfeiriad strategol Prifysgol Bangor i ddarparu profiadau dysgu trawsnewidiol sy’n hyblyg ac yn hygyrch’.
Bydd y rhaglen ddatblygu bwrpasol hon yn canolbwyntio ar wella ac arloesi yn yr amgylchedd dysgu clinigol. Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â phrosiect gwella ansawdd sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion, lleihau amrywiad direswm yn y lleoliad clinigol ac sydd wedi'i anelu at brofiadau dysgu trawsnewidiol.
Mae'r rhaglen yn cynnig secondiad i gyfranogwyr dros gyfnod o 12 mis i ymgymryd â'u prosiect. Cefnogir hyn gan yr elfennau datblygu arweinyddiaeth canlynol:
- Hyfforddiant mewn egwyddorion ac arferion Gwella Ansawdd
- Canolbwyntio ar “Adeiladu Eich Awdurdod”
- Sgiliau ar gyfer dangos gwerth ac effaith trwy gyfathrebu canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau
- Datblygu “Presenoldeb ac Effaith” trwy ddysgu trwy brofiad
- Setiau dysgu gweithredol parhaus
- Diwrnod dathlu
Rydym yn dymuno'r gorau i'r garfan gyntaf ar eu taith Cymrodoriaeth!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2021