Cefnogaeth Arbenigol i D卯m Ynys M么n ar gyfer Gemau鈥檙 Ynysoedd!
Gyda bwrlwm yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno 芒 Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys M么n i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.
Mae Clare Barwood, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn rhoi profion ffitrwydd cynhwysfawr a chefnogaeth seicolegol i athletwyr y Gemau ar Ynys M么n cyn Gemau'r Ynysoedd. Bydd Clare hefyd yn mynd gyda'r garfan i Gibraltar fel eu gwyddonydd chwaraeon yn ystod y gemau.
Cynhelir Gemau'r Ynysoedd Rhyngwladol bob dwy flynedd gyda 24 o ynysoedd sy'n aelodau o bob cwr o'r byd yn cystadlu am fedalau ar draws 18 o fathau gwahanol o chwaraeon. Mae Ynys M么n yn gystadleuydd rheolaidd yn y gemau, a byddant yn cystadlu yn y Gemau 2019 yn Gibraltar. Ond dyma'r tro cyntaf i Gymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys M么n ymuno 芒 Phrifysgol Bangor i gael cefnogaeth gwyddor chwaraeon bwrpasol i gryfhau eu perfformiad.
Bu Clare yn arbennig o weithgar dros y 18 mis diwethaf gyda chwaraeon fel beicio, triathlon, athletau a ph锚l-droed i fesur ffitrwydd eu hathletwyr a hefyd i ddarparu proffil seicolegol i'r athletwyr hyn. Mae Clare hefyd wedi bod yn cynnal ymchwil newydd a chyffrous iawn ar gyfer Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys M么n, i fesur sut y gallai cyfansoddiad seicolegol athletwyr effeithio ar y ffordd y maent yn gwella ar 么l ymarfer, cyn ac yn ystod y gemau.
Meddai Clare am y profiad:
鈥淢ae Ynys M么n yn ceisio gwthio ymlaen chwaraeon ar yr Ynys gyda'r gobaith o gynnal y gemau ynys yn y dyfodol. Mae gweithio gydag IGAA Ynys M么n yn hynod o werth chweil yn ogystal 芒 bod yn ffordd wych o ddysgu am sut i gymhwyso fy ymchwil a gobeithio creu effaith ar IGA Ynys M么n yn y dyfodol.鈥
Yn ogystal 芒'r digwyddiad a gynhelir yn Gibraltar, cynhaliwyd twrnamaint p锚l-droed rhwng ynysoedd 2019 ar Ynys M么n yn ddiweddar gyda thua 14,000 o bobl yn gwylio yn ystod y twrnamaint cyfan. Roedd hyn yn golygu bod t卯m merched Ynys M么n wedi creu hanes trwy gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed gyda th卯m dynion Ynys M么n yn ennill y wobr aur am y tro cyntaf ers 20 mlynedd. Bu Clare yn gweithio'n agos 芒'r t卯m merched drwy fonitro eu data ffitrwydd yn ystod pob g锚m a oedd yn helpu'r t卯m i ddeall a gwella eu perfformiad.
Dywedodd Barry Edwards, cydlynydd Athletau Ynys M么n:
鈥淢ae'r bartneriaeth rhwng Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys M么n a Phrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae llawer o'r athletwyr ar frig eu ffitrwydd a'u gyrfa diolch i Clare a'r t卯m ym Mhrifysgol Bangor gydag Ynys M么n yn anelu at ddod 芒 chymaint o fedalau 芒 phosibl yn 么l o Gibraltar. Gydag athletwyr, rhieni a hyfforddwyr yn elwa, bydd y gemau yn Gibraltar yn ddim ond man cychwyn i'r bartneriaeth newydd hon. Mae'r gwaith caled a'r paratoi yn canolbwyntio hefyd ar yr amcanion tymor hir ar gyfer Guernsey 2021, Ynysoedd Erch 2023 a gemau Ynys M么n 2025.
Caiff ysgoloriaeth ymchwil Clare ei chyllido gan (KESS), sef prif raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae KESS II yn cael ei gyllido'n rhannol gan raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac mae'n cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistr Ymchwil a PhD) gyda phartneriaid allanol yn ardal Cydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019