Bwrsariaethau Ehangu Mynediad yn caniatáu myfyrwyr i barhau a’u hastudiaethau
Mae tri o fyfyrwyr Meistr newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn bwrsariaeth o £5,000 yr un gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, fel rhan o'i hymrwymiad i ddysgu ôl-radd. Mae pob un o'r tri derbynnydd yn dod o ardaloedd difreintiedig yn economaidd ac maent wedi dangos dycnwch sylweddol yn ennill eu graddau cyntaf. Bydd y bwrsariaethau Ehangu Mynediad yn awr yn galluogi'r unigolion hyn i barhau â'u haddysg.
Yn ystod yr haf graddiodd Louise Brown, 22, o'r Rhyl gyda gradd 2:1 mewn Seicoleg ac yn awr bydd yn dechrau gweithio ar broject gyda Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru fel rhan o'i gradd MSc Seicoleg. Meddai Louise, cyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Rhyl:
'Mae derbyn y fwrsariaeth yma wedi fy ngalluogi i gofrestru ar gwrs roeddwn wirioneddol eisiau ei wneud yma ym Mangor a hynny heb orfod cael benthyciad. Heb y fwrsariaeth yma fyddwn i ddim wedi medru mynd ymlaen i wneud cwrs MSc. Nawr mae gen i'r rhyddid i ymroi yn llwyr i fy astudiaethau a gweithio tuag at gyflawni fy mhotensial.'
Mae Jodie Colk, 26, o Abergele, hefyd yn un o raddedigion yr Ysgol Seicoleg, gan ennill gradd 2:1 yng Ngorffennaf. Mae wedi cael ei derbyn ar gwrs MSc Ymchwil Seicolegol a'i nod yw astudio effeithiau cyfryngau cymdeithasol ar berfformiad academaidd. Meddai Jodie:
'Mae'r fwrsariaeth yma wedi fy ngalluogi i gario ymlaen efo fy addysg a gwella fy siawns o gael swydd dda ar ôl i mi raddio. Hebddi fyddwn i'n sicr ddim wedi medru mynd ymlaen i wneud y cwrs. Pan gefais yr alwad i ddweud fy mod wedi cael fy newis i dderbyn y fwrsariaeth fedrwn i prin gredu'r peth. Roedd cael yr alwad honno'n rhyfeddol!"
Trwy gyd-ddigwyddiad llwyr, un o raddedigion Seicoleg yw'r drydedd i dderbyn bwrsariaeth hefyd. Mae Sarah-Jane Farrant, 22, o Peacehaven yn Nwyrain Sussex, wedi cael ei derbyn ar y cwrs MSc Sylfeini Seicoleg Glinigol, ar ôl ennill gradd 2:1 yn 2014. Meddai Sarah-Jane, sy'n wirfoddolwraig frwd gydag elusennau lleol yn ardal Brighton:
'Dwi'n hynod falch o gael fy newis i dderbyn y fwrsariaeth yma. Mae'n golygu y gallaf gymryd cam arall tuag at fy nod hir-dymor o wneud ymchwil am radd doethur a chael profiad o hyfforddiant clinigol. Dwi'n siŵr y byddaf yn edrych yn ôl ar hyn mewn blynyddoedd i ddod fel cymorth holl bwysig wnaeth fy ngalluogi i gyflawni fy mhotensial a dwi'n hynod ddiolchgar am hynny."
Derbyniodd y tair eu sieciau gan Delyth Murphy, Pennaeth y Ganolfan Ehangu Mynediad, a ddywedodd:
"Roedd safon y ceisiadau a gafwyd eleni'n uchel iawn ac mae'n dangos y gellir cyfiawnhau darparu cyfleoedd ariannol ôl-radd mewn cyd-destun Ehangu Mynediad. Trwy roi'r bwrsariaethau yma rydym yn galluogi ein tair derbynnydd teilwng iawn i symud ymlaen i wireddu eu huchelgais. Mae'r tair yn unigolion gweithgar a phenderfynol ac rwy'n sicr y byddant yn llwyddo i gael cymwysterau Meistr rhagorol a chael gyrfaoedd da. Bydd y Ganolfan Ehangu Mynediad yn dilyn eu cynnydd gyda diddordeb mawr."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014