Brexit yn datgelu canfyddiadau newydd ynglŷn â lleiafrifoedd ac iechyd meddwl
Gallai perthyn i grŵp lleiafrifol, y mae ei hunaniaeth yn bwysig i chi, effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl.
Dyna gasgliad darn o ymchwil a wnaed yn sgil refferendwm Brexit ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Social Science and Medicine. ()
Sylweddolodd Dr Chris Saville, seicolegydd yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol fod refferendwm Brexit, a greodd grwpiau lleiafrifol newydd, yn gyfle gwych i astudio sut mae hunaniaethau'n effeithio ar iechyd meddwl.
Dangosodd ei ddadansoddiad fod gan bobl y mae eu barn ar Brexit yn y lleiafrif yn eu hardal leol iechyd meddwl gwaeth na'r rhai sy'n coleddu barn y mwyafrif yn lleol.
Roedd yr effaith yn gymesur ac felly yr un oedd yr effaith ar rai a oedd o blaid aros sy'n byw mewn ardaloedd a bleidleisiodd dros ymadael a'r rhai a bleidleisiodd dros ymadael sy'n byw mewn ardaloedd a bleidleisiodd dros aros.
Defnyddiodd y papur arolwg hydredol mawr a oedd yn bodoli eisoes i ddangos mai dim ond ar ôl y refferendwm yr ymddangosodd y patrwm hwn yn 2016, ac nad oedd iechyd meddwl yr ymatebwyr cyn y refferendwm yn ei egluro.
Dywedodd Dr Chris Saville:
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod y wleidyddiaeth ranedig a phegynol a welsom yn sgil y refferendwm wedi cael effaith wirioneddol ar iechyd y cyhoedd a hynny ar bobl o'r ddwy ochr i'r ddadl.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai'n chwerthinllyd meddwl y gallai'r ffaith fod barn rhywun am aelodaeth o'r UE yn wahanol i eiddo ei gymdogion fod yn ddrwg i'w iechyd meddwl. Mae'n dangos yn eglur pa mor gyflym y mae hunaniaethau cymdeithasol yn ffurfio a pha mor bwerus y gallant fod."
Dywedodd Dr Caroline Bowman, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Seicoleg:
“Mae’r ymchwil hwn yn bwysig y tu hwnt i Brexit oherwydd ei fod yn taflu goleuni ar sut a pham y gall perthyn i leiafrif fod yn ffactor sy'n peryglu iechyd meddwl. Mae llawer o’r ymchwil ar y pwnc hwn wedi canolbwyntio ar grwpiau lleiafrifol sydd â hunaniaethau hirsefydlog, fel lleiafrifoedd ethnig neu rywiol.â€
Mae'r astudiaeth hon yn anarferol o ran gallu edrych ar iechyd meddwl pobl cyn ac ar ôl iddynt ddod yn aelodau o leiafrifoedd nad oeddent yn bodoli o'r blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020