Bangor yn helpu i drechu'r bwlis
Ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymyrraeth ar sail Tystiolaeth (CEBEI), sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg, oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i werthuso effeithiolrwydd rhaglen gwrth-fwlio KiVa a grëwyd yn y Ffindir.
Arweiniodd y rhaglenni peilot at ostyngiad yn nifer yr achosion o fwlio ac erbyn hyn mae rhaglen KiVa wrthi'n cael ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Powys, dan arweiniad y bwrdd iechyd lleol, oherwydd y cysylltiadau rhwng bwlio a phroblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd. Gwyliwch y fideo a darllenwch fwy ar .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015