Athro ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd
Mae'r Athro Jo Rycroft-Malone, Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn yr ym Mhrifysgol Bangor wedi'i gosod ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd.
Un mesur arwyddocaol a phwysig o ymchwil academaidd yw pa mor aml y dyfynnir papurau ymchwil academaidd, neu y cyfeirir atynt, mewn erthyglau academaidd eraill. Mae gwaith Yr Athro Rycroft-Malone yn ymddangos ar y rhestr sydd newydd ei chyhoeddi, y '', sy'n cynrychioli meddyliau gwyddonol mwyaf blaenllaw y byd.
Mae'r Athro Rycroft-Malone ymhlith dros dair mil o ymchwilwyr o bob rhan o'r byd sy'n ennill yr anrhydedd drwy ysgrifennu'r nifer fwyaf o adroddiadau. Pennwyd hyn yn swyddogol gan Essential Science Indicators℠fel papurau y dyfynnir llawer arnynt - gan sefyll ymhlith yr 1% uchaf a ddyfynnir fwyaf am eu maes pwnc a blwyddyn cyhoeddi, a farnwyd gan gymheiriaid i fod o arwyddocâd penodol, ac ennill iddynt nod effaith eithriadol.
Dywedodd Yr Athro Rycroft-Malone:
“Rydw i wrth fy modd gyda'r newyddion bod y gwaith yr ydw i wedi bod yn ymwneud ag o ers dros 15 mlynedd yng nghyswllt ymchwilio i wahanol ddulliau gweithredu, a'u rhoi ar waith i wella ymarfer a gwasanaethau, wedi cael ei werthfawrogi cymaint gan y gymuned ryngwladol. Rydw i’n teimlo balchder i fod ymhlith cwmni mor eithriadol ar y rhestr hon o ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd"
Mae diddordebau ac arbenigedd penodol Yr Athro Rycroft-Malone ym maes ymchwil i drosi gwybodaeth, yn cynnwys sut, a pham, mae tystiolaeth neu wybodaeth yn cael, neu ddim yn cael, eu defnyddio'n ymarferol.
Mae nifer o enghreifftiau drwy hanes o ddatblygiadau gwirioneddol fuddiol a all fod ar gael mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd, ond nad ydynt yn cael eu mabwysiadu'n helaeth mewn ymarfer bob dydd. Mae'r Athro Rycroft-Malone yn ymddiddori mewn gwerthuso beth yw'r rhesymau hyn o bosib, a sut gellir eu goresgyn, fel bod arferion gorau yn cael eu mabwysiadu a'u defnyddio'n helaeth. Mae wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu fframwaith sy'n cefnogi'r prosesau hyn, a ddefnyddir yn helaeth ar draws y byd. Mae hwn yn faes hollbwysig sy'n arbennig o berthnasol i wyddorau gofal iechyd, oherwydd fe all gynnig manteision mawr i gleifion, a chyfrannu at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn gofal iechyd byd-eang.
Dyma ddywedodd yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor:
“Er mwyn i ymchwil gael effaith, mae angen ei rhannu a'i mabwysiadu, ac mae'n bleser gennyf fod ein hymchwil ym maes Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, drwy'r gwaith a wneir gan yr Athro Jo Rycroft-Malone ac eraill, yn cael effaith ar ofal iechyd, nid yn unig yn rhanbarthol ac yng Nghymru, ond yn rhyngwladol hefyd.â€
Mae gan yr Athro Rycroft-Malone nifer o swyddi, yn cynnwys Cadeirydd 'Implementation Strategy Group' y National Institute for Health & Clinical Excellence (NICE), a Dirprwy Gadeirydd 'Health Services and Research Delivery Programme Commissioning Board' y National Institute for Health Research (NIHR), ac aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2014