Athro ym Mhrifysgol Bangor yn ennill gwobr Cyflawniad Oes mewn Seicoleg gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
Mae'r Athro Judy Hutchings ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn y wobr Cyflawniad Oes mewn Seicoleg gan Fwrdd Ymarfer Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Bu'r Athro Hutchings, sy'n Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth (CEBEI) ym Mangor, yn seicolegydd plant clinigol ymgynghorol gyda'r GIG am nifer o flynyddoedd. Lansiwyd CEBEI yn 2011, ac mae'n datblygu ac asesu ymyriadau ar gyfer rhieni, plant ac athrawon, yn enwedig rhai sy'n seiliedig ar theori dysgu cymdeithasol ac sy'n cefnogi plant ag anawsterau rheoli ymddygiad ac anawsterau cymdeithasol. Ym mis Mehefin 2011 derbyniodd OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i blant a theuluoedd.
Dywedodd yr Athro Hutchings wrth The Psychologist, "Rwy'n fwy diolchgar na balch o dderbyn y wobr ... yn ddiolchgar bod fy ngyrfa yn y GIG a'r Brifysgol wedi caniat谩u i mi weithio gyda rhieni ysbrydoledig sy'n aml yn brwydro yn erbyn anawsterau lu i wneud y gorau i'w plant.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, UNICEF a chydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Cape Town i gefnogi lledaenu'r hyn rydym wedi'i ddysgu dros y 40+ mlynedd diwethaf fel rhaglenni fforddiadwy ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig.
"Rwyf hefyd yn gweithio ar ddatblygu adnoddau hygyrch ar y we i rieni ac athrawon, sy'n arbennig o berthnasol yn ystod y pandemig COVID-19 a'r heriau yn sgil hynny."
Wrth longyfarch yr Athro Hutchings, dywedodd yr Athro John Parkinson Deon Coleg y Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor, 鈥淢ae Judy yn rhywun sy'n ysbrydoli ac yn esiampl werthfawr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a theuluoedd dirifedi. Mae ei gwaith yn enwog yn rhyngwladol, yn rhoi'r sylfaen dystiolaeth sydd wir ei hangen ar gyfer yr hyn sy'n gweithio i sicrhau newid parhaol. Hoffwn ar ran Prifysgol Bangor ei llongyfarch am y gydnabyddiaeth hon o'i llwyddiannau. 鈥
Dyddiad cyhoeddi: 26 Awst 2020