Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Dyfarnwyd medalau’r Gymdeithas mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant yn y byd academaidd. Yn anffodus nid oedd yr Athro Thomas yn bresennol gan ei bod mewn Cynhadledd Ryngwladol ar y pryd.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Thomas: “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr arbennig hon eleni, ac yn hynod ddiolchgar i’r rhai hynny a fy enwebodd ac i’r Gymdeithas am ddyfarnu’r fedal hyfryd hon i mi gan roi cydnabyddiaeth i’m gwaith. Mae hi wir yn fraint ac yn anrhydedd cael bod wedi gweithio mewn maes sydd yn agos iawn at fy nghalon ers dros 20 mlynedd bellach – sef datblygiad y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn plant – ac mae’n braf cael bod yn rhan o’r bwrlwm cenedlaethol wrth i ni lunio strategaethau ac ymyraethau addysgol, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn cymell rhagor o ddefnyddwyr o’r Gymraeg erbyn 2050.â€
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’n wych fod gennym ni’r amrywiaeth hwn o ragoriaeth sy’n cael ei gydnabod gyda dyfarnu’r medalau hyn. Mae’n arbennig o galonogol eu bod yn cynnwys pedwar ymchwilydd ifanc hynod dalentog.â€
Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.
Eleni dyfarnodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru saith medal gyda phob un wedi’i enwi er anrhydedd i ffigurau arwyddocaol yn hanes nodedig Cymru.
Dyfarnwyd Medal Frances Hoggan i’r Athro Tavi Murray FLSW o Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith ym maes ymchwil rhewlifol.
Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer STEMM i Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Emily Shepard, Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe, a medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Dyfernir Medal Menelaus i gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i ymarferwr diwydiannol a all ddangos cysylltiad penodol â Chymru.Eleni, dyfarnwyd y fedal i’r Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe,
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019