Arddangos ymchwil arloesol i ofal iechyd
Heddiw (Iau 2 Gorffennaf), ym Mhrifysgol Bangor, rhoddwyd sylw i ymchwil newydd o bwys sydd i wella gofal iechyd yng Nghymru a鈥檙 DU.
Oherwydd y posibiliadau iddynt effeithio ar wasanaethau i gleifion, tri phroject penodol a gafodd flaenoriaeth, wrth i Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, ymweld 芒鈥檙 Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad yn y Brifysgol.
Mae rhaglen a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gynorthwyo adferiad wedi str么c yn edrych yn addawol iawn, ac mae eisoes yn cael ei defnyddio gyda grwpiau eraill o gleifion, hyd yn oed cyn i鈥檙 ymchwil ddod i ben. Mae nifer o raglenni i gefnogi bywyd wedi str么c wedi profi鈥檔 aneffeithiol. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 rhain yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol yn y maes iechyd 鈥 ac efallai mai dyna sydd wrth wraidd y broblem. Fodd bynnag, mae ymdriniaeth flaengar Prifysgol Bangor yn torri tir newydd. Mae鈥檙 dull newydd, sef hyfforddi rhai sydd wedi goroesi str么c fel hyfforddwr cyfoed, yn profi mor llwyddiannus fel ei fod eisoes wedi鈥檌 ddefnyddio mewn sefyllfaoedd eraill, gyda phobl sydd wedi cael anaf trawmatig i鈥檙 ymennydd.
Mae鈥檙 ymchwil yn dal i fynd rhagddi ac yn asesu effeithiolrwydd cyd-blethu arbenigaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd 芒 dealltwriaeth a phrofiad rhai sydd wedi goroesi str么c, er mwyn datblygu鈥檙 rhaglen hyfforddi cyfoed.
Meddai鈥檙 Athro Christopher Burton o鈥檙 Ysgol Gwyddor Gofal Iechyd, 鈥淟lwyddiant y rhaglen yw ei bod yn rhoi 鈥榞rym i鈥檙 bobl鈥 i鈥檙 rhai sydd wedi goroesi str么c. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden yn rhoi budd i bobl sydd wedi dioddef str么c, ac mae anogaeth i gymryd rhan gan eraill sydd wedi profi str么c yn rhoi mwy o anogaeth iddynt gymryd rhan.鈥
Mae ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd o fewn y Brifysgol hefyd 芒鈥檌 bryd ar wella gofal i鈥檙 rhai sydd 芒 chlefyd angheuol.
Un her, yn benodol i gleifion str么c, yw adnabod yr arwyddion nad yw claf yn mynd i wella, a rhoi cychwyn ar drafodaeth briodol 芒鈥檙 cleifion hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael gofal priodol ar ddiwedd eu hoes.
Bydd yr ymchwil hon o gymorth i bobl ym maes gofal iechyd a meddygaeth, fel y gallant asesu pa bryd yn union y dylai鈥檙 sgwrs honno ddigwydd. Mae鈥檙 ymchwilwyr, sydd yn arbenigwyr mewn defnyddio ffrwyth ymchwil yn effeithiol yn ymarferol mewn amgylchedd gofal iechyd, wedi cydweithio 芒 phartneriaid clinigol ac ymchwilwyr ledled y DU, er mwyn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol i wella鈥檙 agwedd bwysig hon ar wasanaethau str么c ddwys.
Yn ychwanegol at ymchwil, mae鈥檙 Ysgol yn cydweithio mewn cysylltiad agos 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Cadwaladr (BCUHB) er mwyn gwella profiadau cleifion a theuluoedd yn y rhanbarth. Er enghraifft, mae arbenigwyr o鈥檙 Ysgol yn gweithio gydag arweinwyr nyrsio yn y Bwrdd Iechyd i wella ansawdd gofal yn y sector Ysbytai Cymunedol yng Nghymru. Mae鈥檙 Gr诺p ymchwil eisoes wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer strategaeth gwella ansawdd yn y rhan bwysig hon o鈥檙 system gofal iechyd.
Meddai鈥檙 Athro Jo Rycroft Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
鈥淕an gynnig rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil, mae gan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd hanes cryf o lwyddiant wrth gydweithio 芒 gwasanaethau iechyd ar draws y DU. Rydym yn falch o fedru cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda鈥檙 gwaith hwn gydag ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru, ac mewn meysydd eraill, er mwyn parhau i wella profiadau a chanlyniadau cleifion鈥.
Roedd y Gweinidog, Mark Drakeford hefyd yn lansio Join Dementia Research, menter ar y cyd a fydd yn cynyddu ymchwil dementia yng Nghymru drwy alluogi pobl sydd 芒 dementia neu hebddo i gofnodi eu diddordeb mewn astudiaethau, gan gynorthwyo ymchwilwyr i ganfod y cyfranogwyr ymchwil priodol ar yr adeg briodol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015