Archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl ac unigrwydd pobl hŷn â nam gwybyddol yng nghymru
Mae gwyddonwyr wedi nodi grŵp o bobl sy'n ymddangos yn hynod o wydn yn yr ystyr nad ydynt yn nodi eu bod yn profi anawsterau iechyd meddwl er gwaethaf dementia neu nam gwybyddol.
Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar, a gyhoeddwyd yn yr , ganfod bod yr unigolion hyn sydd â gwytnwch iechyd meddwl hefyd yn llai tebygol o brofi unigrwydd.
O ganlyniad i'w canfyddiadau, mae'r awduron yn galw am wasanaethau a chyfleoedd i bobl sy'n byw gartref â dementia, sy'n cefnogi eu hunan-barch ac yn atgyfnerthu cysylltiadau cymdeithasol, ac yn eu galluogi i barhau i weithredu hyd eithaf eu gallu er gwaethaf eu cyflwr, a chael cefnogaeth i wneud cyfraniad defnyddiol.
Mae'r agweddau hyn i gyd yn cefnogi gwytnwch ac yn atal unigrwydd.
Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Auckland ac Amsterdam. Defnyddiodd wybodaeth a ddarparwyd gan 579 o bobl dros 65 oed â nam gwybyddol yn byw yng Nghymru, a gafwyd gan dros 3500 o bobl a gymerodd ran mewn dwy don o gasglu data ddwy flynedd ar wahân fel rhan o Astudiaeth Swyddogaeth Wybyddol a Heneiddio Cymru (CFAS Cymru).
Profodd bron i draean y bobl hŷn sy'n byw gyda nam gwybyddol unigrwydd cymedrol i ddifrifol ar y ddau bwynt amser yn ôl y dadansoddiad, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Roedd ychydig llai na chwarter ohonynt yn dangos gwytnwch iechyd meddwl, neu absenoldeb iselder a phryder, a lles uchel.
Roedd gan y gwyddonwyr ddiddordeb yn y modd y mae unigolion yn datblygu gwytnwch iechyd meddwl, ac yn archwilio ymgysylltiad cymdeithasol a chysylltiadau, adnoddau seicolegol ac agweddau ar ffordd iach o fyw, fel diet, gweithgarwch corfforol ac yfed alcohol.
Fe wnaethant ddarganfod bod pobl a oedd â mwy o hunan-barch, mwy o gysylltiadau cymdeithasol fel cefnogaeth gan deulu a ffrindiau, ac na wnaethant adrodd am unrhyw broblemau cof, gyda mwy o wytnwch iechyd meddwl hefyd. Fe wnaethant ddarganfod yn ogystal bod dynion yn fwy tebygol o brofi gwytnwch iechyd meddwl na merched. Canfuwyd bod llawer o'r bobl hynny â gwytnwch iechyd meddwl yn profi llai o unigrwydd ddwy flynedd yn ddiweddarach.
I bobl ag anawsterau mwy difrifol gyda'r cof a meddwl, roedd hunan-barch a chysylltiadau cymdeithasol yn arbennig o bwysig ar gyfer profi llai o unigrwydd.
Dywed Gill Windle, Athro mewn Ymchwil i Heneiddio a Dementia yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor:
“Mae gwytnwch mewn poblogaethau iau wedi bod yn destun nifer o astudiaethau, ond mewn cymhariaeth, nid yw’r astudiaeth o wytnwch yn ddiweddarach mewn bywyd wedi cael yr un sylw. Hyd y gwyddom, dyma'r archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl yn y boblogaeth hon, ac felly mae'n gam cyntaf pwysig tuag at hyrwyddo gwybodaeth newydd. Nid ydym mewn unrhyw ffordd yn ceisio bychanu'r effaith ddinistriol y gall dementia ei chael ar rai pobl, ond rydym yn dangos bod amrywiaeth yn y profiad, a bod rhai pobl yn gwneud yn iawn."
O amgylch y byd, mae llawer o gymdeithasau yn symud tuag at sefydlu cymunedau 'ystyriol o oedran' a chymunedau 'cefnogi pobl â dementia'.
Aeth yr Athro Gill Windle ymlaen i ddweud:
“Mae hyn yn bwysig, oherwydd efallai na fydd unigolion yn gallu dod yn wydn os nad yw’r gymuned yn hwyluso gwasanaethau a chyfleoedd, ac yn ymgorffori egwyddorion polisïau dementia cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer byw cystal â phosibl. Fodd bynnag, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith arbennig niweidiol ar bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Mae diffyg gwasanaethau a oedd eisoes yn aml yn gyfyngedig o ran eu darpariaeth, ond yr oedd llawer yn eu hystyried yn hanfodol bwysig, wedi dwysáu'r sefyllfa.
Dywed yr awduron ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau'n cael eu hadfer - ar ffurf wedi'i haddasu lle bo angen - a bod camau'n cael eu cymryd i frwydro yn erbyn unigrwydd ymhlith pobl â dementia a'r rhai sydd mewn perygl.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021