Arbenigwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Channel 4 "Hidden Talent"
Mae Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori ar gyfres Channel 4 a byddant yn ymddangos yn y sioe gyntaf y gyfres newydd: am 21.00 ddydd Mawrth 24.4.12, ynghyd â rhai myfyrwyr o'r Brifysgol.
Cyfres newydd chwe rhan yw . Mae’n darganfod doniau cudd hynod nad oedd pobol byth yn breuddwydio hyd yn oed bod ganddynt. Yn y rhaglen, mae cannoedd o bobl, a ddewiswyd ar hap, yn cael eu rhoi drwy gyfres o brofion i adnabod rhai sydd â galluoedd cudd. Mae naw cyfranogwr yn darganfod os gallant fynd o fod yn ddechreuwyr llwyr i berfformiwr o'r radd flaenaf mewn ychydig o amser.
Yn cael ei oruchwylio gan wyddonwyr ac academyddion, mae dros 900 o bobl o bob cwr o'r wlad yn cael eu profi, ac mae nifer yn canfod bod ganddynt ddoniau corfforol, meddyliol, synhwyraidd neu greadigol arbennig - yr oeddent yn gwbl anymwybodol ohonynt. Mae'r arbenigwyr "Hidden Talent" yna'n ymgymryd â nhw, a’u hyfforddi a’u datblygu er mwyn iddynt allu wynebu heriau arbennig ac ymestyn eu talent newydd hyd yr eithaf, proses a allai hyd yn oed newid gweddill eu bywydau.
Mae'r bennod gyntaf yn canolbwyntio ar ddau sgìl bur wahanol: dringo creigiau a chanfod celwydd. Dyfeisiodd Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman prawf a fyddai'n tynnu allan priodoleddau naturiol pobl ar gyfer dringo creigiau. Maent yna’n cynorthwyo yn y broses ddethol, wrth gwtogi’r niferoedd i ddod o hyd i'r unigolion a oedd, yn eu barn nhw, â'r potensial orau i ragori wrth ddringo creigiau.
Roedd Dr Woodman yn chwilio am addasrwydd seicolegol yr unigolion, tra bod Jamie Macdonald yn dethol yn ôl eu gallu corfforol.
Roedd yr academyddion hefyd wedi sicrhau bod busnesau lleol gan gynnwys Canolfan Mynydda Cenedlaethol Plas y Brenin, Capel Curig, Wal Ddringo Indefatigable Canolfan Nuffield yn Llanfairpwll a Ropes and Ladders yn Llanberis hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, a gafodd ei ffilmio mewn sawl lleoliad yn Eryri ac Ynys Môn.
Esboniodd Dr Jamie Macdonald: "Roedd hwn yn gyfle gwych i Grŵp Ymchwil Eithafion yr Ysgol fod yn rhan o broject a oedd yn dangos ein gwybodaeth a sut y gellir ei gymhwyso."
Wrth sôn am y profiad dywedodd: "Roedd yn ddiddorol iawn sylweddoli y gall pobl gael talentau cudd nad ydynt o reidrwydd yn ymwybodol ohonynt."
Rhoddodd Jamie wneuthurwyr y rhaglenni mewn cysylltiad â Martin Chester, hyfforddwr dringo o safon fyd-eang o Blas y Brenin. Rhoddodd yntau’r 10 yn y rownd derfynol trwy gyfres o dasgau er mwyn profi eu hystwythder, rhwyddineb gydag uchder, sgiliau arwain a chyfathrebu.
Maggie, sy’n 45 oed, yn nain ac yn nyrs sy’n cael ei ddewis i ddatblygu’r sgiliau y mae hi newydd ddarganfod ymhellach trwy dderbyn hyfforddiant un-i-un cyn ei her olaf: dringo Old Man of Stoer, stac môr 200 droedfedd yn yr Alban. Yr unig ffordd i gyrraedd yw drwy abseilio dros fôr terfysglyd, ac mae’r ddringfa fel arfer yn cymryd blynyddoedd o hyfforddiant cyn ei geisio.
Dechreuodd bywyd Maggie fel oedolyn yn 16 oed pan gafodd ei hun ar ei phen ei hun efo babi i’w magu, ond yn benderfynol o brofi y gallai llwyddo doed a ddêl. Wedi dim ond 18 diwrnod o hyfforddiant dwys, lle mae Maggie’n dangos dewrder a gwir ddycnwch, a fydd hi’n gallu dangos unwaith eto ei bod yn gallu goresgyn ei hofnau a goresgyn wyneb y graig 60m?
Mae’r cyflwynydd, Richard Bacon, yn dilyn cynnydd y cyfranogwyr, gan ddadorchuddio’r wyddoniaeth ryfeddol sy'n galluogi unigolion hyn i gyflawni'r hyn y gall pobl eraill ond breuddwydio am wneud. Mae'r rhain yn amrywio o dalentau sgiliau ieithyddol cudd sy'n caniatáu unigolyn i ddod yn rhugl mewn iaith dramor mewn dim ond ychydig fisoedd, i'r atgyrch deifio mamaliaid sy’n galluogi rhai pobl i dal eu gwynt am hyd at bedair munud a phlymio i ddyfnder o 60 metr heb offer sgwba, neu hyd yn oed ymdeimlad o gyfeiriad rhyfeddol sy'n gwneud i rywun yn ryw ‘Sat Nav Dynol’, sy'n gallu dod o hyd i'w ffordd drwy anialwch dieithr.
Mae'r profion a gynhaliwyd ar gyfranwyr yn cael eu cynllunio i asesu cymhwyster yn hytrach na sgiliau neu wybodaeth, felly gall gwylwyr hefyd cymryd rhan drwy brofion rhyngweithiol a gynlluniwyd yn arbennig ar wefan Channel 4. Yn adlewyrchu'r rheiny yn y gyfres, mae'r rhain yn ddyrys ac yn hwyl ac wedi’u dylunio mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr y gyfres 'ac yn rhoi cyfle i wylwyr datgelu eu talent gudd eu hunain - yn amrywio o gemau cofio a thasgau hymian i fod yn fetronom dynol.
Wedi ei ddatblygu a'i gynhyrchu gan Silver River, ar y cyd â American Express, y gyfres hon yn archwilio sut yr ydym yn hynod fel bodau dynol ac yn dangos yn union ein galluoedd, gan ddefnyddio ein talent gudd.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012