Ail gynhadledd PhD lwyddiannus Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Yn ddiweddar cynhaliodd Bangor ail gynhadledd PhD Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gan groesawu dros 50 o ymchwilwyr PhD o bob rhan o Gymru. Datblygwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r awydd i gynyddu ymchwil gydweithredol ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â Hyfforddiant Doethurol hynod lwyddiannus ESRC Cymru yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Dros ddau ddiwrnod bu’r gynhadledd yn gyfle i ôl-raddedigion gyfarfod, cymdeithasu a chyflwyno darganfyddiadau eu hymchwil.
Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio’n fawr ar hyfforddiant ymchwil a datblygu myfyrwyr ôl-radd yn ymchwilwyr o ansawdd uchel. Aeth y cynadleddwyr i sesiynau hyfforddiant ymchwil ar bynciau fel y REF, pŵer ac amcangyfrif maint samplau, yn ogystal â chynnal sesiwn ‘holi’r panel’. Yno gallodd y cyfranogwyr ofyn unrhyw beth am ymchwil a hyfforddiant ymchwil, ac arweiniodd at drafod a dealltwriaeth ragorol.
Dywedodd Dr Ross Roberts (SSHES), trefnydd y gynhadledd bod “y ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn wych. Hyfryd oedd gweld cymaint o ymchwilwyr ifanc o ansawdd uchel yn cyflwyno a thrafod eu hymchwil mewn awyrgylch gefnogol a chyfeillgar. Mae’r sesiynau hyfforddiant ymchwil hefyd wedi bod yn rhagorol, gyda myfyrwyr yn gwir werthfawrogi’r cyfleoedd i ddatblygu. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf nawr!â€
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018