ACau, ASau ac Arbenigwyr yn Galw ar Bleidiau Cymru i Gefnogi Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar ym meysydd Iechyd ac Addysg
Bydd ACau o bob plaid yn ymuno ag arbenigwyr ymwybyddiaeth ofalgar yn Nhy Hywel Cynulliad Cenedlaethol Cymru fory (Mawrth 17 Tachwedd) i alw am wneud mwy ym maes ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae Cymru yn wynebu argyfwng iechyd meddwl; ceir consensws bod angen gwneud mwy i gefnogi pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl neu mewn perygl o'u datblygu. Mae Mindful Nation UK, adroddiad newydd gan ASau San Steffan, yn cyflwyno tystiolaeth bod hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar - dysgu technegau gan gynnwys myfyrio sy'n helpu pobl i ymateb yn well i anawsterau - yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn gofal iechyd, mewn addysg ac mewn gweithleoedd.
Mae llawer o ysgolion ac awdurdodau iechyd eisoes yn addysgu ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae Cymru yn un o arweinwyr y byd o ran defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar at ddibenion therapiwtig, yn enwedig yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth yn ddarniog ac nid yw wedi'i chynllunio.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys y Gweinidogion Vaughan Gething (Dirprwy Weinidog Iechyd) a Ken Skates yn ogystal â Darren Millar, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid.
Meddai Darren Millar (Ceidwadwyr), 'Dylem i gyd fod yn pryderu am y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl. Mae'r dystiolaeth o blaid hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar wedi gwneud argraff dda arnaf; rwyf wedi profi'r buddion fy hun. Mae angen i ni edrych o ddifrif ar sut y gallwn wireddu ei botensial.'
Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd tan yr etholiad diwethaf, oedd cyd-gadeirydd y grŵp seneddol, ac ef fydd yn lansio'r adroddiad Mindful Nation UK. Bydd siaradwyr eraill yn cyflwyno tystiolaeth o fuddion hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar ac yn argymell sut y gall Cymru ei ddatblygu yng Nghymru.
Mae argymhellion pleidiau gwleidyddol Cymru cyn yr etholiad yn cynnwys:
- Cynnig Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ar draws Gwasanaeth Iechyd Cymru yn unol â chanllawiau NICE fel ei fod yn cyrraedd cyfran arwyddocaol o bobl sydd wedi dioddef iselder ar dri achlysur neu fwy.
- Darparu cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar drwy'r GIG i bobl ag ystod ehangach o broblemau iechyd corfforol a seicolegol.
- Cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon i bob athro newydd.
- Cefnogi addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion.
- Sicrhau arfer da o ran addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn gweithleoedd
Anne Jones AC (Llafur): “Yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu plant oed cynradd i ddatblygu gwytnwch a gofal a dysgu meistroli eu hemosiynau. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu darparu'r sgiliau sydd eu heisiau ar ddisgyblion, rhieni a chyflogwyr. Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Bangor am ddatblygu cwricwlwm ymwybyddiaeth ofalgar cynradd Paws B. Mae'n wych gweld Cymru ar flaen y gad."
Llyr Gruffydd (Plaid) "Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn diwallu anghenion go iawn i bobl ledled Cymru, yn enwedig ym meysydd iechyd ac addysg. Mae angen i ni edrych o ddifrif ar sut y gall gyfrannu."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015