CoHaBS yn rhagori yn REF 2014
Yn Ymarfer Asesu Ymchwil (REF) 2014 Llywodraeth y DU, cafodd CoHABS GPA cyfartalog o 3.27 ar draws y tair uned asesu, sy'n ein rhoi yn y 6ed safle ym Mhrydain wrth ein cymharu â GPAs cyffredinol sefydliadau. Mae hwn yn gadarnhad gwych o'r ymchwil ragorol sy'n cael ei gwneud ar draws y Coleg ac o ddylanwad ac effaith yr ymchwil honno. Mae Prifysgol Bangor hefyd wedi gwneud yn dda iawn drwodd a thro, gan ddringo i safle 39 yn y tabl nad yw'n cynnwys sefydliadau un pwnc (42 drwodd a thro).
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, Deon y Coleg, ei bod wrth ei bodd efo'r canlyniad; "Dwi'n eithriadol falch o'r perfformiad ar draws yr unedau asesu yn CoHaBS; mae'n tystio i waith caled ac ymroddiad ein staff a'n myfyrwyr. Mae'r canlyniadau yma, ynghyd â'r sgoriau rhagorol a gafodd y Coleg yn Arolwg Boddhad Myfyrwyr (NSS) 2014, yn dangos sut rydym yn darparu amgylchedd dysgu sydd gyda'r gorau un ym Mhrydain ac yn rhyngwladol."
Gwyddorau Gofal Iechyd - GPA 3.29 - Rhif 1 ym Mangor, 20 uchaf yn y DU
Mae 95% o'n hymchwil iechyd gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol ac mae ansawdd ein cynnyrch ymchwil iechyd yn ein rhoi yn y 3 uchaf o 94 o brifysgolion ar sail cynnyrch. Roedd ein hymchwil yn ymdrin â sialensiau iechyd byd-eang pwysig yn ymwneud â threfnu a darparu gofal iechyd gydol oes, ac o fainc y labordy i erchwyn y gwely, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i ymchwil a fydd o fudd i gleifion a gwasanaethau iechyd.Â
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Jo Rycroft-Malone: “Dwi wrth fy modd efo'n llwyddiant. Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol a phwysig i'r brifysgol. Mae'r canlyniad yma'n adlewyrchu arbenigedd ac ymroddiad ein staff ac yn cadarnhau ein huchelgais i barhau'n rym pwysig ym maes ymchwil iechyd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio efo'n partneriaid i ganfod ffyrdd newydd o wneud ymchwil a defnyddio ymchwil mewn ymarfer, fel y bydd cleifion a gwasanaethau'n elwa. Mae hwn yn ganlyniad pwysig i'n myfyrwyr gan y byddant yn parhau i fanteisio o astudio mewn amgylchedd sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil."
Seicoleg - GPA 3.28 - Rhif 2 ym Mangor, 20 uchaf yn y DU
Roedd 89% o'n hymchwil Seicoleg yn cael ei hystyried 'gyda'r orau yn y byd' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol' a daethom i safle 17 drwodd a thro (allan o 82 o brifysgolion). Elfen allweddol bwysig yn y llwyddiant hwn yw ymdrechion yr Ysgol i greu effaith y tu allan i'r byd academaidd.  Yn y categori hwn cafodd ein holl gyflwyniad ei gyfrif yn 'rhagorol' neu'n 'sylweddol iawn' o ran ei gyrhaeddiad a'i arwyddocâd.
Mynegodd Dr John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol, ei foddhad gyda'r canlyniadau diweddaraf:  "Rydw i'n falch iawn o berfformiad yr ysgol mewn un o'r unedau asesu mwyaf a mwyaf cystadleuol yn REF 2014. "Rydw i wedi bod yn ymwybodol erioed o gryfder ein hysgol sydd wedi denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i Fangor ac mae'r ffaith bod 40% o'n gwaith ymchwil yn cael ei gyfrif 'gyda'r orau yn y byd' yn dyst i'r cryfder hwnnw. Credaf ei bod yn werth dweud eto bod y perfformiad ardderchog hwn yn y REF yn dilyn yn syth ar ôl perfformiad eithriadol dda yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 lle cawsom ein gosod yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran 'boddhad myfyrwyr'.  Ychydig iawn o adrannau eraill ar draws Prydain a all gynnig tystiolaeth mor ddiwyro o ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu fel ei gilydd." Cliciwch yma i gael mwy o fanylion am ganlyniadau Seicoleg yn REF 2014.
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ad Ymarfer - GPA 3.25 - Rhif 3 ym Mangor, 10 uchaf yn y DU
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi yn y 7 uchaf yn ei sector yn y DU. Yn ogystal â sicrhau sgôr genedlaethol uwch, ystyriwyd bod 100% o'r deunydd ymchwil a gyflwynwyd naill ai o'r safon orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.Â
Roedd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Tim Woodman, wrth ei fodd gyda'r newyddion a gyhoeddwyd heddiw: "Dydi o ddim yn syndod i mi o gwbl i weld y Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn parhau i ddringo o fewn y sector ym Mhrydain. Mae ein hymchwil yn wir o safon gyda'r orau yn y byd ac, fel y byddai ein myfyrwyr presennol yn barod i dystio, defnyddir yr ymchwil honno i oleuo a chyfoethogi ein dysgu. Mae'r sgôr uchel am effaith a dylanwad ein hymchwil yn arbennig o galonogol, oherwydd yn yr Ysgol hon rydym yn ymfalchïo mewn gwneud ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ar sail ein canlyniadau cryf iawn yn yr NSS yn ddiweddar, lle cawsom ein rhoi'n 4ydd drwy Brydain, rydym yn gweld canlyniadau REF 2014 yn cadarnhau ein safle fel Ysgol ac fel prifysgol sy'n cynnig y cyfuniad gorau o ysgol academaidd gyda'r orau yn y byd, ynghyd â phrofiad rhagorol i'n myfyrwyr."
REF 2014 Prifysgol Bangor
Drwodd a thro mae’r brifysgol yn y 40 uchaf ym Mhrydain ac mae wedi cael ei chydnabod am ymchwil o safon gyda’r orau yn y byd mewn sawl maes. Darllenwch fwy yma am berfformiad y brifysgol yn gyffredinol.Â