Athena SWAN
Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ehangwyd y siarter yn 2015 i gynnwys yr holl adrannau academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Bellach, mae Athena Swan yn cydnabod gwaith a wneir i roi sylw i gydraddoldeb rhyw yn fwy eang ac mae ei gwobrau'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb rhyw ac amrywiaeth, arferion gweithio rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol yr ydym yn ei hyrwyddo i staff a myfyrwyr ar bob lefel.
Wrth siarad am y wobr ym mis Mai 2021, dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd: “Rydym yn gosod cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd holl fusnes yr Ysgol, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn gwobr Efydd Athena Swan. Hoffwn ddiolch i'r holl staff a myfyrwyr, a diolch arbennig i aelodau'r tîm hunanasesu am eu hymrwymiad i'r broses gwneud cais. Mae'r wobr hon yn cadarnhau ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael lle blaenllaw ar draws rhaglenni addysgu ac ymchwil yr Ysgol."