Galwad y m么r
Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, sy'n dod o Tenerife, ar y trywydd iawn i wireddu breuddwyd oes o gael gyrfa ym maes amgylchedd y m么r.
Bydd William Reid, 21, o Puerto de la Cruz, yn graddio'r wythnos hon gyda BSc S诺oleg Fertebratau鈥檙 M么r. Mae wedi bod 芒 gwir ddiddordeb erioed mewn mamaliaid m么r. Yn blentyn ymatebodd i hysbyseb swydd i ddod yn hyfforddwr Orca yn ei ganolfan bywyd m么r leol yn Loro Parque. Dychwelodd i Loro Parque ddeng mlynedd yn ddiweddarach "Cefais interniaeth yn Loro Parque, Tenerife. Cefais brofiad gwerthfawr yno gyda phythefnos yn yr Adran Mamaliaid M么r a phythefnos yn yr Adran Pengwiniaid."
Meddai William, cyn ddisgybl yn Ysgol Brydeinig Tenerife: "Mae'n deimlad gwych i raddio. Rydw i wedi gweithio'n galed a chael hwyl hefyd, er iddi fod yn dipyn o her i adael cartref ac astudio dramor."
Ychwanegodd am Fangor: "Wrth astudio'r cwrs gwych ac unigryw yma roeddwn yn teimlo pe bawn i'n llwyddo i gael gradd y gallwn wedyn gael gyrfa ym maes amgylchedd y m么r, sy'n bwysig iawn i mi yn arbennig yn y cyfnod yma pan mae'n bur fregus."
"Dwi'n hynod ddiolchgar i Dr Martin Skov, fy nhiwtor, am yr holl gymorth ac arweiniad mae o wedi'i roi i mi drwy gydol tair blynedd fy nghwrs. Diolch hefyd i Brifysgol Bangor am fod 芒 ffydd ynof i ac i'r holl staff sydd wedi bod mor gymwynasgar pan oedd angen hynny."
A dyma oedd gan William i'w ddweud am y dyfodol: "Dwi'n gobeithio cael gyrfa ym maes amgylchedd y m么r a helpu'r byd i gael gwell dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018