Boddhad eithriadol i'w weld ymysg ôl-raddedigion ADNODD
Mae rhyddhau canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Profiad Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô Hyfforddedig (PTES) 2015 yn tystio i flwyddyn arall o lwyddiant eithriadol i (ADNODD). Cafodd yr Ysgol sgôr anhygoel o 99% o ran boddhad drwodd a thro.
Ategir y sgôr boddhad cyffredinol eithriadol yma gan sgoriau'r un mor drawiadol (90%+, n = 59) yn y rhannau hynny o'r arolwg a oedd yn delio ag ansawdd addysgu, adborth, cefnogaeth i fyfyrwyr, goruchwylio myfyrwyr ymchwil ac adnoddau llyfrgell.
Yn ADNODD cynigir amrywiaeth o ym meysydd cadwraeth, coedwigaeth, diogelwch bwyd a rheoli'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o gyrsiau meistr trwy ddulliau dysgu o bell, gydag amryw ohonynt yn unigryw mewn Addysg Uwch ym Mhrydain.
Yn ogystal, mae Arolwg Profiad Ymchwil Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô (PRES) 2015 wedi gweld ADNODD yn cael sgôr uchel drwodd a thro ym maes boddhad myfyrwyr, sef 94% gan fyfyrwyr PhD o'r Ysgol.
Meddai Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Morag McDonald, wrth ymateb i ganlyniadau PTES a PRES 2015: "Mae hwn yn ganlyniad aruthrol ac yn glod i ymdrechion ein holl staff technegol, gweinyddol ac academaidd yn addysgu a chefnogi myfyrwyr Meistr a goruchwylio eu myfyrwyr ymchwil. Mae'r canlyniadau hefyd yn glod i'r bartneriaeth gynhyrchiol rydym yn ei datblygu gyda'n myfyrwyr, megis drwy Bwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr yr Ysgol. Mae Bangor yn lle gwych i ddod iddo i astudio ac ymchwilio i'r amgylchedd ac mae'r Ysgol wedi datblygu ystod o gyrsiau dysgu o bell arloesol. Mae'n destun balchder arbennig gweld bod myfyrwyr ADNODD mor hynod o fodlon gyda'u profiad astudio ôl-radd."
Mae'r canlyniadau PTES a PRES diweddaraf yn ychwanegu at lwyddiannau niferus eraill yr Ysgol mewn addysgu a dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrychwn ymlaen at weld y rhain yn parhau dros y misoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015