Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Ymchwil Ysgol y Gymraeg

Main arts gates

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Cynhelir yr ymarfer REF nesaf yn 2021. ByddÌýYsgol y Gymraeg ac Astudiaethau CeltaiddÌýyn cyflwyno i'r unedau canlynol:

  • UoAÌý26 - Modern Languages and Linguistics

Ìý

Arbenigedd mewn llenyddiaeth Gymraeg

Y mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau’r staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Llenyddiaeth Gymraeg yn y byd modern

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern. Er enghraifft, fe welir bod astudiaeth ddiweddar (2013)ÌýDr Angharad PriceÌýo T.H. Parry-Williams yn archwilio datblygiad gyrfa gynnar y bardd yng nghyd-destun amgylchfydoedd deallusol Rhydychen, Freiburg a Pharis. Mae gwaith diweddarÌýYr Athro Jerry HunterÌýar y cysylltiadau Cymreig yn hanes y Tsalagi yn rhan o astudiaeth estynedig ehangach o ddiwylliant Cymraeg America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac y mae gwaithÌýDr Jason Walford DaviesÌýar R.S. Thomas yn tynnu ar wybodaeth eang o lenyddiaethau Cymraeg a Saesneg Cymru. Fe welir hefyd fod plethwaith cymhleth y cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn cael eu hastudio yng ngwaith arloesolÌýDr Aled Llion JonesÌýar broffwydoliaeth yng Nghymru (2013).Ìý

Adlewyrchu'r Gymru fodern

Y mae’n hen draddodiad ym Mangor fod ymchwil ym maes y Gymraeg yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion cynulleidfaoedd y tu hwnt i furiau’r Brifysgol. Ymhlith y rhai sy’n elwa ar ein hymchwil y mae: cynulleidfaoedd lleyg sy’n darllen ein cyhoeddiadau; cynulleidfaoedd radio a theledu; sefydliadau diwylliannol megis yr Eisteddfod Genedlaethol a Llenyddiaeth Cymru; myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, addysgwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am feysydd llafur mewn ysgolion; rhai sy’n llunio polisïau iaith; gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol, e.e. gweinyddwyr a gweision sifil; meysydd treftadaeth a’r cyfryngau; a chwmnïau cyfieithu a chyhoeddi.

Amrywiaeth Ieithyddol a Diwylliannol

Yng Nghymru yr ymglywir gryfaf â dylanwad ein hymchwil, ond y mae hefyd yn fodd o hyrwyddo dealltwriaeth lawnach o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ar lefel ryngwladol. Ar hyn o bryd, y mae nofel fawr Angharad PriceÌýO! Tyn y GorchuddÌý(2001) wrthi’n cael ei chyfieithu i chwech o ieithoedd eraill, gan gynnwys Almaeneg, Rwmaneg a Bengaleg.