Nod cyffredinol
Bydd Prifysgol Bangor yn anelu at gyfnerthu ei safle fel un o'r prifysgolion uchaf yng Nghymru a bod ymysg y 40 prifysgol uchaf ym Mhrydain.Ìý Dylai llwyddiant Bangor gael ei adeiladu o amgylch y sylfaen bresennol o ymchwil yn ei holl ddisgyblaethau academaidd.Ìý Er mwyn creu proffil allanol, datblygir nifer llai o themâu ymchwil gyda'r nod o'u hamlygu fel meysydd ymchwil o safon fyd-eang.Ìý Bydd y themâu hyn yn adlewyrchu cryfderau Bangor, helpu i ddiffinio brand i Brifysgol Bangor ac amlygu ansawdd ymchwil ym Mangor.Ìý Tanlinellir y themâu hyn gan fwy o ragoriaeth ymchwil yn yr holl feysydd pwnc.Ìý I gyflawni hyn rydym angen gwella maint ac ansawdd ein cynnyrch ymchwil a thyfu ac amrywiaethu ein hincwm ymchwil ymhellach.Ìý Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio'n llawn ar flaenoriaethu ymchwil llywodraethau Ewrop, Prydain a Chymru.Ìý Dylem geisio elwa'n ogystal ar arbenigedd unigryw'r brifysgol ei hun a'i safle daearyddol i greu enw da unigryw am ymchwil o ansawdd uchel yng nghyd-destun darparu addysg ragorol i israddedigion.
Mae'n rhaid cyfuno'r strategaeth ymchwil hon â strategaethau'r brifysgol ym meysydd rhyngwladoli, addysgu a dysgu a phartneriaeth, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd a ddaw o ganlyniad i gynllun Pontio, er mwyn sicrhau un dull gweithredu cyfunol o ymdrin â datblygu ymchwil yn y brifysgol.Ìý Dylid ymgorffori'r strategaeth mewn cylch cynllunio blynyddol sy'n gofyn i bob ysgol a choleg roi sylw i'r ysgogyddion strategol a sut y maent yn gallu rhoi sylw i'r sialensiau lluosog ac amrywiol sy'n wynebu Addysg Uwch heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod.Ìý
Defnyddiwch yÌýRhestr Dogfennau Llywodraethol a PholisïauÌýi weld Strategaeth Ymchwil Prifysgol Bangor.