Cyfleusterau
Mae gan Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion gyfleusterau cefnogi rhagorol ar gyfer addysgu ac ymchwil.
Mae ganddi ystod eang o gyfleusterau:
- o labordai addysgu mawr, modern, 芒 chyfarpar da, i
- 聽labordai ymchwil 芒鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf;
- o longau bychain i wneud ymchwil gyda鈥檙 glannau, i long ymchwil morwrol 35 metr - Prince Madog.
- o rwydwaith cyfrifiadurol ardal leol ar gyfrifiaduron personol, i weithfannau pwerus prosesu rhifau a ddefnyddir wrth fodelu鈥檙 cefnforoedd yn rhifiadol;
- o systemau graffeg cyhoeddi bwrdd gwaith a chyhoeddi ffotograffig, i weithdai trydanol a mecanyddol mewnol sy'n gallu dylunio ac adeiladu offer eigioneg o'r radd flaenaf;
- o lyfrau a chyfnodolion traddodiadol, i'r adnoddau llyfrgell electronig diweddaraf (trwy'r Brif Lyfrgell Wyddoniaeth ym Mangor);
- o gyflenwad d诺r m么r wedi'i hidlo yn uniongyrchol o鈥檙 Fenai, i acwaria m么r d诺r oer a throfannol
Llong Ymchwil y Prince Madog
惭补别鈥檙 Prince Madog聽 yn llong ymchwil bwrpasol o鈥檙 radd flaenaf a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor gan ddefnyddio grant Cyd-gronfa Isadeiledd gwerth 拢3.5 miliwn ac sy鈥檔 galluogi gwyddonwyr morol y Deyrnas Unedig i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg ein moroedd.聽
Labordai
Mae nifer o labordai arbenigol ar safle Porthaethwy, gyda llawer ohonynt wedi鈥檜 cysylltu鈥檔 barhaus 芒 chyflenwad d诺r m么r. Mae'r labordai hyn yn darparu ar gyfer gwaith olrhain radio; magu larf芒u, pysgod ac organebau trofannol amrywiol; cemeg forol; gwaddodeg; geotechneg a geoffiseg; hydrodynameg a datblygu a chynnal offeryniaeth ar gyfer rhaglenni morwrol mewn eigioneg ddeinamig a geoffiseg.
Labordy cemeg forol
- Sbectromedr M脿s Cymarebau Isotopau SIRA II
- Sbectromedr M脿s Cymarebau Isotopau GEO 20/20 gyda CAPS (System Baratoi Awtomatig Carbonad)
Labordy sglerogronoleg
Mae carbonadau biogenig morol yn archifau naturiol o wybodaeth balaeoamgylcheddol, a gallant ddarparu cofnodion dirprwyol cydraniad uchel o amrywioldeb hinsawdd cefnforol y gorffennol a鈥檙 presennol. Rydym yn defnyddio data cynyddran twf (sglerogronoleg) a gwybodaeth geocemegol (sclerocemeg) o folysgiaid a charbonadau biogenig eraill i astudio amgylcheddau cefnfor modern a hynafol.
Defnyddir techneg o鈥檙 enw Ultrasonic Doppler Velocimetry i fesur cyflymder llif un cyfeiriad a deugyfeiriadol. Mae'r dull hwn wedi'i deilwra ar gyfer crynodiadau uchel o waddod mewn daliant, lle mae dulliau eraill yn methu 芒 chasglu data dibynadwy.
Labordy hydrodynameg
Mae Labordy Hydrodynameg Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn gyfleuster arbrofol ar gyfer efelychu symudiadau d诺r a gwaddodion gan donnau, y llanw, afonydd a cherhyntau dwysedd. Mae'r 'Hydrolab' yn gartref i dri chafn arbrofol ac ystod o offeryniaeth i fesur paramedrau llif ac ansawdd d诺r.
Mae'r cafn mwyaf yn 10m o hyd, 0.3m o led, a 0.5m o ddyfnder. Mae d诺r a gwaddod yn cael eu hailgylchredeg gan bwmp sgriw pwlsadur allgyrchol Hidrostal sy'n caniat谩u i solidau mawr basio drwyddo ac sy'n trin deunydd cain gyda'r difrod lleiaf posibl. Mae system bibellau pwrpasol yn caniat谩u cynhyrchu llifoedd un cyfeiriad, llifoedd afonol a llifoedd llanw deugyfeiriadol. Mae gan y cafn gynhyrchydd tonnau sy'n cynhyrchu tonnau arwyneb d诺r rheolaidd. Gellir cyfuno'r cynhyrchydd tonnau 芒'r pwmp i gynhyrchu llifau cyfun. Mae'r cafn hefyd wedi'i ddefnyddio i gynhyrchu ceryntau dwysedd llawn gronynnau.
Mae'r cafn lleiaf yn 2m o hyd, 0.2m o led, a 0.14m o ddyfnder. Mae'r cafn hwn yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn astudio prosesau erydol mewn gwaddod cydlynol ac anghydlynol.
- Defnyddir prob Optegol 脭l-wasgaru i gasglu crynodiadau o waddod mewn daliant.
- Mae mesuryddion tonnau ar gael i fesur uchder, hyd, cyfnod a chyflymder lluosogi tonnau arwyneb d诺r.
- Mae camer芒u treigl amser yn darparu cofnodion amser hir o newid morffolegol, er enghraifft, ffurfiau gwely gwaddodol.
- Mae camera fideo digidol o鈥檙 safon uchaf ar gael ar gyfer recordio prosesau deinamig.
惭补别鈥檙 Hydrolab wedi鈥檌 ddefnyddio ar gyfer ystod eang o brojectau ymchwil ffisegol, biolegol a gwaddodegol gan gynnwys ymchwil i鈥檙 pynciau canlynol:聽
- Datblygiad crychdonnau cerrynt mewn tywod cydlynol biolegol a ffisegol
- Modyliad tyrfedd mewn llifoedd clai mewn daliant
- Datblygiad crychdonnau tonnau mewn cymysgeddau o dywod a chlai
- Llif d诺r llawn maetholion a d诺r sy'n brin o faetholion dros hadau cregyn gleision
- Sefydlogrwydd gwaddod morfeydd heli fel un o swyddogaethau gwreiddiau planhigion, yn 么l math, amrywiaeth a dwysedd
- Ymsymudiad pysgod
- Erydiad o amgylch modelau wrth raddfa o strwythurau peirianneg forol
- Deinameg tirffurf gwely鈥檙 llanw
- Pwysau croesrym critigol gwely tywod lleidiog
- Hydrodynameg a gwaddodiad cynefinoedd Sabellaria alveolata
- Cregyn bylchog yn agor ac effaith claddu a gwaddodi
- Effaith anghymesuredd dargyfeirio llif ar diwnio tyrbinau llanw
- Rhyngweithio hylif-gwaddod mewn ceryntau cymylogrwydd yn symud dros welyau mwdlyd meddal
Llongau Ymchwil ar y Glannau
Mae gan yr Ysgol nifer o gychod gwaith sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o dasgau ac o amodau'r m么r. Mae'r llynges hon o longau llai yn galluogi samplu biolegol, cemegol, cefnforol a daearegol mewn dyfroedd basach gyda'r glannau lle na-all y Llong Ymchwil Prince Madog. bob amser gael mynediad atynt.
- Cwch arolygu catamar谩n Cheetah 7.9m, wedi鈥檌 ardystio i gategori 3 y MCA
- System amlbaladr SeaBat Reson 7101 (240 kHz)
- caban mawr ar gyfer gosod offer eigioneg eraill
- winsh, camlath a nenbont ar gyfer anfon cyfarpar dros ochr neu starn cwch
- twll bychan yng nghorff y cwch at ddiben gosod trawsddygiaduron acwstig ar gyfer ADCP a systemau sonar amlbaladr
- moduron allfwrdd gefeilliol 130 H.P. -> cyflymder uchaf o 25 not -> cludiant cyflym i safleoedd arolwg.
- Cwch arolygu Leeward 18 5.5m, wedi鈥檌 ardystio i gategori 4 y MCA
- digon bach i gael ei dynnu ar hyd y ffordd fawr
- caban ar gyfer gosod offer arolwg eigioneg
- Cwch gwaith agored alwminiwm 4.2m
- ar gyfer gwaith mwy cysgodol mewn aberoedd ac ar y Fenai