- Bod yn flaengar a chynaliadwy ac anelu at gyflawni pileri a them芒u Strategaeth 2030 y Brifysgol a Fframwaith Byd-eang y Brifysgol.
听 - Paratoi a chefnogi ymarferwyr meddygol ac iechyd i ymwneud 芒 dysgu gydol oes ac ymarfer adfyfyriol a fydd yn meithrin safonau rhagorol o ran ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
听 - Gweithio mewn partneriaeth 芒 phobl sy鈥檔 defnyddio gwasanaethau, darparwyr ac asiantaethau meddygol a gofal iechyd yng Nghymru, ond hefyd yn drawsffiniol, gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar ymchwil, addysg, ysgolheictod a gwyddor gofal iechyd.
听 - Sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu meddygol ac iechyd, sy鈥檔 seiliedig ar ymchwil ac sydd wedi ei gydgynhyrchu gan staff, myfyrwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr, gan arddel cyd-werthoedd cymdeithasol a gwella cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd.
听 - Cefnogi a hyrwyddo ysgolheictod, gwyddoniaeth ac ymchwil sy'n rhagori'n rhyngwladol ac sydd wedi'u cymhwyso i bolisi ac arferion meddygol a gofal iechyd er mwyn gwerthuso, datblygu a, lle bo hynny'n bosibl, gwella ymarfer proffesiynol.
听 - Hyrwyddo egwyddorion caredigrwydd deallus ac arweinyddiaeth dosturiol, gan fabwysiadu'r dulliau addysgu a dysgu mwyaf addas sy'n cynnig dewis, hyblygrwydd a chyfleoedd dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr.听 Meithrin parch at bob proffesiwn, gan ddatblygu deallusrwydd a chydnerthedd cymdeithasol ac emosiynol.
听 - Meithrin cymhwysedd iaith a diwylliannol ymhlith ymarferwyr meddygol ac iechyd.听 Ymgorffori ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant mewn ymchwil ac arfer meddygol ac iechyd ac ymateb yn sensitif i anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg.
听 - Arwain ymchwil o'r safon uchaf sy'n gwella bywydau a gwasanaethau gofal iechyd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.