Pennaeth Gwybodaeth Fusnes Ariannol a Chynlluniau Cyfalaf.
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2005.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Roeddent yn cynnig cynllun i raddedigion, felly gwnes gais a b没 i鈥檔 llwyddiannus.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Mae fy r么l yn ymwneud 芒 rheoli cyllidebau Cyfalaf Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gan sicrhau gwerth am arian ac anghenion y gwasanaeth. Mae hefyd yn ymgorffori gwybodaeth fusnes a sicrhau gwerth o鈥檙 cyllid presennol a phrojectau鈥檙 dyfodol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich r么l?
Gallu gwneud gwahaniaeth a helpu datblygu asedau sy'n gwella iechyd a lles Cymru.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Ewch amdani, roedd yr hyfforddiant a'r gefnogaeth a gefais dros y blynyddoedd o safon fyd-eang. Y cwestiwn y dylech bendroni yn ei gylch yw, ai gyrfa ynteu swydd yr ydych chi eisiau. Os mai'r ateb yw gyrfa, y Gwasanaeth Iechyd yw'r llwybr i chi.
Sut byddech chi鈥檔 disgrifio鈥檙 Gwasanaeth Iechyd mewn gair?聽