Nid dim ond penderfyniadau unigol sy鈥檔 effeithio ar iechyd. Mae'n cael ei siapio gan rymoedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Mae gan ymchwilwyr yn ein gr诺p ystod helaeth o ddiddordebau o dan y thema hon.
Gall penderfyniadau iechyd a lles pobl gael eu llywio gan eu hunaniaeth: yn genedlaethol, yn wleidyddol ac o ran dosbarth, a sut y mae'r agweddau hynny鈥檔 cyd-weddu 芒'r cymunedau maent yn byw ynddynt. Cynorthwyodd ymchwilwyr yn yr Ysgol gynghori iechyd cyhoeddus am yr agweddau hyn yn ystod pandemig Covid-19.
Mae ymddiriedaeth mewn darparwyr gofal iechyd, gwyddoniaeth, a'r llywodraeth yn hanfodol i berswadio pobl i ymgymryd ag ymddygiadau iechyd cadarnhaol. Mae gan ymchwilwyr yn y sefydliad ddiddordeb mewn gwybod pam fo pobl yn ymddiried mewn cyngor iechyd a pham nad ydynt yn gwneud, a chanlyniadau hynny.
Nid yw iechyd da a mynediad at ofal wedi eu dosbarthu'n deg. Mae ein gr诺p yn ymchwilio i anghydraddoldebau iechyd o'r fath ac yn .
Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Llesiant yn gweithio ar iechyd dros rychwant oes, o blentyndod i henaint, i ddeall sut gall pobl arwain bywydau hapusach ac iachach.