Mae dau athro o Brifysgol Bangor wedi鈥檜 henwi ymhlith y 10 gweithwyr amgylcheddol proffesiynol mwyaf dylanwadol yn y Deyrnas Unedig.
Mae 鈥楾he ENDS Report鈥 wedi datgelu ei 鈥樷 ddiweddaraf o鈥檙 100 o amgylcheddwyr proffesiynol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wedi'i sefydlu ym 1978, mae 鈥楾he ENDS Report鈥 yn gylchgrawn sy'n ymdrin 芒 pholisi busnes a newyddion o鈥檙 sector amgylcheddol.
Mae鈥檙 Athro Christian Dunn, o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, wedi鈥檌 enwi鈥檔 un o鈥檙 gweithwyr proffesiynol amgylcheddol mwyaf dylanwadol ar y rhestr, am ei waith ar wyddor gwlyptiroedd.
鈥淒wi鈥檔 wirioneddol synnu o ganfod fy hun ar y rhestr hon, ochr yn ochr 芒 rhai enwau mawrion y sector a hyd yn oed enwau cyfarwydd fel Feargal Sharkey,鈥 meddai鈥檙 Athro Dunn.
鈥淢ae gen i obsesiwn braidd 芒 gwlypdiroedd a sut gallwn ni eu defnyddio fel Atebion yn Seiliedig ar Natur i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion mwyaf enbyd sy鈥檔 ein hwynebu: newid hinsawdd, yr argyfwng bioamrywiaeth a llygredd d诺r.鈥
鈥淩wy鈥檔 ffodus fy mod yn cael gweithio ym Mhrifysgol Bangor lle gallaf ymchwilio i鈥檙 cynefinoedd gwych hyn, gweithio gyda chwmn茂au a sefydliadau allanol, a dysgu criw gwych o fyfyrwyr,鈥 ychwanegodd yr Athro Dunn.
Mae'r Athro Christian Dunn yn wyddonydd gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor cysylltiol dros Gynaliadwyedd. Mae ei feysydd ymchwil a'i arbenigedd yn cwmpasu pob agwedd ar wyddoniaeth d诺r croyw a gwlyptir arfordirol, llygredd plastig, ansawdd a thriniaeth d诺r, a materion amgylcheddol ecolegol cyffredinol. Ef yw Cyfarwyddwr Gr诺p Cyswllt Gwlyptiroedd Bangor.
Wedi鈥檌 henwi hefyd y mae'r Athro Bridget Emmett OBE, gwyddonydd ecosystem yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (), sydd hefyd yn Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae鈥檙 Athro Emmett wedi arwain mwy nag 20 o brojectau aml-bartner sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 heriau brys megis yr angen am aer glanach, arferion rheoli tir mwy cynaliadwy, adfer iechyd y pridd, lliniaru newid yn yr hinsawdd yn ogystal 芒 datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer polisi a busnes fel cyllid gwyrdd a sero net.聽
Hi yw Prif Ymchwilydd Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP). Mae鈥檔 casglu llawer iawn o ddata ar draws tirwedd Cymru, i nodi tueddiadau amgylcheddol hirdymor, newid model ac effaith defnydd a rheolaeth tir yn y dyfodol, er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu鈥檙 polisi Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae'r Athro Emmett hefyd yn llywydd Cymdeithas Ecolegol Prydain.
Mae Rhestr B诺er blaenllaw The ENDS Report, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, yn dathlu unigolion mwyaf dylanwadol y proffesiwn, gan gynnwys enwebeion llwyddiannus o adrannau a rheoleiddwyr y llywodraeth, cyrff anllywodraethol, ymgyngoriaethau amgylcheddol a chwmn茂au cyfreithiol, y byd academaidd, a mwy.
Dywedodd golygydd The ENDS Report, Jamie Carpenter, 鈥淢ae The Power List yn ddathliad o鈥檙 cronfeydd enfawr o dalent sy鈥檔 bodoli yn y proffesiwn amgylcheddol, a鈥檌 nod yw taflu goleuni ar waith y rhai sy鈥檔 cyflawni newid cadarnhaol trwy eu hymdrechion.
鈥淐afodd yr unigolion ar y rhestr eleni eu dewis yn dilyn proses drylwyr gan gynnwys arolwg o ddarllenwyr The ENDS Report, a chymorth panel o arbenigwyr yn y maes.鈥