Ymateb i’r digwyddiadau diweddar yn Israel, Gaza a'r Dwyrain Canol
Fel sefydliad byd-eang, mae Prifysgol Bangor yn cydnabod y gofid y bydd sawl aelod o'n cymuned yn ei deimlo oherwydd y digwyddiadau diweddar yn Israel, Gaza a'r Dwyrain Canol. Mae ein cydymdeimlad a'n meddyliau gyda phawb y mae’r digwyddiadau yn y rhanbarthau hyn yn effeithio arnynt. Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i gefnogi ein myfyrwyr a'n staff ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle gallwn werthfawrogi a pharchu ein gilydd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i'n myfyrwyr a'n staff, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon i ofyn am gymorth.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
- Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr – cynhwysol@bangor.ac.uk
- Mae ein Gwasanaeth Lles integredig (cwnsela a chefnogaeth iechyd meddwl) yn cynnig cefnogaeth ac adnoddau i unrhyw un sydd angen hynny – gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gael gafael ar gefnogaeth yn /studentservices/wellbeing/index.php.cy
- Mae’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth ar bob agwedd o les i fyfyrwyr rhyngwladol a'u teuluoedd. Gallwch ddarganfod mwy yma: /international/support
Mae'r Gaplaniaeth Aml-ffydd ym Mhrifysgol Bangor yn agored i bawb, waeth beth fo'u ffydd. Mae'r tîm yn darparu cefnogaeth fugeiliol a chrefyddol i staff a myfyrwyr. Ewch i'w gwefan am restr o’r caplaniaid a’u manylion cyswllt – https://www.bangor.ac.uk/studentservices/faith/index.php.cy
Cefnogaeth i staff
- VIVUP Rhaglen Cymorth i Weithwyr Prifysgol Bangor -
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - gellir dod o hyd i adnoddau a chysylltiadau yma: /humanresources/equalitydiversity/index.php.cy
- Gwasanaethau Iechyd a Lles: /cy/iechyd-a-lles