Trwy ddadansoddi wrin cleifion, mae'n bosibl pennu, yn gywir iawn, eu tebygolrwydd o farw, gan ganiatáu iddynt hwy a'u teuluoedd baratoi'n well ar gyfer diwedd eu hoes gan roi rhagor o wybodaeth hefyd i glinigwyr benderfynu ynghylch eu gofal a'u meddyginiaeth.
Cyfrannodd Dr Elinor Chapman, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, at astudiaeth a oedd yn dangos sut y gellir mesur newidiadau metabolaidd sy’n digwydd yn ystod y 30 diwrnod olaf cyn i glaf farw i ragfynegi pryd y bydd yn marw, ac mae’r rhagfynegiad yn fwyfwy cywir wrth i amser y farwolaeth agosáu.
Dywedodd Dr Chapman sy’n arwain ar addysgu astudiaethau achos canser i fyfyrwyr meddygaeth graddedig ac a fu’n gweithio ar yr ymchwil tra oedd ym Mhrifysgol Lerpwl,
“Mae clinigwyr yn dweud pa mor anodd ydy hi i ateb cwestiynau’r claf a’i anwyliaid ynghylch pryd mae rhywun yn mynd i farw, sy'n hanfodol er mwyn rhoi'r gofal gorau posibl i rywun. Roedd yn fraint cael dod â fy nghefndir gwyddonol i weithio ar broject mor newydd, sy’n cynnig y gobaith o allu helpu i ateb y cwestiynau hyn.”
Dywedodd un o gyd-awduron yr ymchwil, Dr Seamus Coyle, sy’n Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge ac yn Uwch Ddarlithydd Clinigol er Anrhydedd ym Mhrifysgol Lerpwl,
“Er gwaethaf degawdau o ymchwil canser a 5,000 o flynyddoedd o feddygaeth, nid ydym yn gwybod sut mae canser yn lladd, ac mae rhagweld pryd y bydd rhywun yn marw o ganser yr ysgyfaint yn dibynnu i raddau helaeth ar farn y clinigydd gan nad oes prawf cywir ar gael i bennu hyn.
“Trwy astudio cyfansoddion organig anweddol mewn wrin rydym wedi creu model i ragweld gyda thebygolrwydd uchel pryd y bydd y cleifion hyn yn marw.
“Mae gwybod pryd mae claf yn debygol o farw yn ddechrau da i ofal diwedd oes ac yn caniatáu i deuluoedd a chleifion gynllunio’n fwy cywir a chefnogi eu hanwyliaid trwy’r broses o farw. Mae hefyd yn hysbysu clinigwyr yn well fel y gallant wneud penderfyniadau mwy priodol am y claf.”
Dadansoddwyd wrin o 144 o gleifion canser yr ysgyfaint o bob rhan o Lannau Mersi i ddod o hyd i fiofarcwyr posibl ar gyfer marwolaeth. Mewn cyfres o brofion, dangoswyd bod 37 o gyfansoddion organig anweddol yn y samplau wrin yn newid i'r fath raddau fel y gellid gwneud rhagfynegiadau sylweddol o farwolaeth, gan ddosbarthu cleifion i gategorïau risg isel, canolig ac uchel o farw. Dangoswyd o fewn 30 diwrnod fod gan y canlyniadau werthoedd tebygolrwydd “rhagorol”.
Dywedodd un arall o gyd-awduron yr ymchwil, yr Athro Chris Probert, sy’n Gastroenterolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl ac yn Athro Gastroenteroleg ym Mhrifysgol Lerpwl,
“Bu farw bron i 10 miliwn o bobl ledled y byd o ganser yn 2020 ac roedd canser yr ysgyfaint, sydd â’r gyfradd marwolaethau uchaf, oedd yn gyfrifol am 1.8 miliwn o’r marwolaethau hynny. Mae rhagweld pryd mae cleifion â chanser datblygedig yn debygol o farw yn heriol ac nid oes prawf cywir ar gael i bennu hyn. Fodd bynnag, mae cydnabod yn gynnar y gallai person fod yn marw yn ganolog i’r holl flaenoriaethau ar gyfer gwella profiad pobl o ofal yn ystod dyddiau ac oriau olaf eu bywydau.
“Dyma’r astudiaeth gyntaf i ddefnyddio dull metabolomeg i ymchwilio i’r broses o farw yn ystod wythnosau olaf bywyd. Mae’r canfyddiadau’n darparu tystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth bod newidiadau metabolmaidd penodol yn gysylltiedig â’r broses o farw mewn canser.”
Darparodd The Clinical Research Network: North West Coast staff ac adnoddau i gyflawni’r astudiaeth hon. Hefyd, dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol y Rhwydwaith, Yr Athro Enitan Carrol: “Mae marwolaeth anwylyd yn gyfnod mor anodd i deuluoedd a gofalwyr. Mae'r astudiaeth hon yn hanfodol bwysig i helpu clinigwyr i gefnogi pobl a'u teuluoedd yn ystod dyddiau olaf eu bywyd.
“Rydym yn ddiolchgar i’r holl ymchwilwyr, i’r cleifion ac i aelodau’r teuluoedd hynny a gymerodd ran a gwneud hyn yn bosibl. Rydym yn falch iawn o weld bod ein hymchwil i ofal lliniarol yn cael effaith fyd-eang.”
Ariannwyd y gwaith hwn gan Wellcome Trust UK a North West Cancer Research UK.
I ddarllen yr adroddiad, gweler:
Oes modd rhagweld pryd yn union y gallai rhywun yn yr wythnosau diwethaf o ganser yr ysgyfaint farw?
Mae ymchwil newydd wedi dangos y gellir rhagweld yn gywir beth yw risg cleifion â chanser yr ysgyfaint o farw ym mhedair wythnos olaf eu bywyd.