Dr Graham Ormondroyd yn dod yn Is-lywydd IOM3
Llongyfarchiadau i Dr Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion y Brifysgol, sydd wedi ei ethol yn Is-lywydd y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio ().
Dechreuodd Dr Graham Ormondroyd ei yrfa fel coedwigwr, ond symudodd yn gyflym i faes gwyddor coed, gan wneud doethuriaeth yn y brifysgol. Ar ôl treulio blwyddyn yn gweithio ym maes ymchwil coedwigaeth yn Seland Newydd ar brosiectau â ffocws diwydiannol, ymgartrefodd yn ôl ym Mangor i wneud ymchwil mewn cynhyrchion coedwigaeth a'r maes bioddeunyddiau ehangach. Mae Graham yn parhau i arwain grŵp ymchwil bio-ddeunyddiau fel Darllenydd mewn Bioddeunyddiau yn y brifysgol, ac mae’n gyd-arweinydd ar raglen ymchwil newydd ar draws y brifysgol ar ‘Gynhyrchu Gwerth Uchel Cynaliadwy.’
Dywedodd Graham, “Rwy’n falch iawn o gael fy ethol yn Is-lywydd y Sefydliad. Ar ôl gweithio ar hyd fy oes ym maes deunyddiau cynaliadwy, rwy’n edrych ymlaen at yrru’r agenda cynaliadwyedd ar draws holl agweddau’r Sefydliad.
“Fel Cynghorydd Strategol i IOM3, rwyf wedi croesawu’r cyfle i ryngweithio â’r cymunedau technegol y tu allan i’m maes arbenigol uniongyrchol, ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau wrth i mi ymgymryd â’r rôl newydd yma. Edrychaf ymlaen at wynebu’r heriau sydd o’m blaenau a bod yn rhan o’r tîm a fydd yn creu dyfodol i’r Sefydliad ac yn parhau i ddatblygu profiad aelodau.”