Mae Prifysgol Bangor a鈥檙 Labordy Niwclear Cenedlaethol, sef labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear, heddiw wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth a fydd yn eu gweld yn cydweithio i hyrwyddo addysg ac ymchwil ym maes ynni niwclear, gan gynnwys sgiliau a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant niwclear. Byddant hefyd yn gweithio ar brojectau ymchwil ar y cyd ac yn rhannu seilwaith, cyfleusterau ac offer a fydd yn datblygu technolegau niwclear.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae buddsoddiad y Labordy Niwclear Cenedlaethol yng Nghymru wedi tyfu鈥檔 sylweddol gyda chyfres o bartneriaethau gyda busnesau a sefydliadau addysgol Cymreig, gan gynnwys Prifysgol Bangor. Mae鈥檙 bartneriaeth hon yn dangos ymrwymiad y Labordy Niwclear Cenedlaethol i hybu arloesedd, buddsoddiad a chyflogi gweithlu medrus yng Nghymru 鈥 un a fydd yn gwneud cymaint dros gyfraniad y DU at net sero.
Mae cyflwyno swyddfa newydd i'r Labordy Niwclear Cenedlaethol听ar Ynys M么n ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) y llynedd wedi darparu canolfan leol newydd i'r Labordy Niwclear Cenedlaethol fwrw ymlaen 芒鈥檌 uchelgais yng Nghymru, a bydd yn helpu i adeiladu鈥檙 hanes cryf sydd yn Nghymru o ran technoleg niwclear.
Wrth siarad ar adeg llofnodi鈥檙 memorandwm cyd-ddealltwriaeth, dywedodd Dr Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol y Labordy Niwclear Cenedlaethol: 鈥Wrth inni geisio sicrhau dyfodol ynni gl芒n i鈥檙 DU drwy dechnolegau niwclear mwy newydd a datblygedig, rydym yn cydnabod effaith a gwerth Cymru fel canolfan wyddoniaeth ac arloesi niwclear. Mae datblygiad y berthynas sydd gennym ni ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Bangor, a ffurfiolwyd drwy鈥檙 memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd, yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu鈥檙 ymchwil, y sgiliau a鈥檙 galluoedd y bydd eu hangen yma ac ar draws y DU.听
鈥Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i ehangu a chryfhau ein gallu ar y cyd mewn hydroleg thermol niwclear, tanwyddau newydd ac arloesol, systemau ynni niwclear a chydgynhyrchu. Bydd i鈥檙 gwaith hwn ran bwysig yng ngallu'r DU i ddatblygu鈥檙 gyfres nesaf o dechnolegau niwclear carbon isel, yn ogystal 芒 chefnogi datblygiadau eraill er budd y cyhoedd megis iechyd trawsnewidiol a meddygaeth niwclear. Trwy fanteisio ar gyfleusterau a galluoedd o fri y Labordy Niwclear Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor, byddwn nid yn unig yn cryfhau ac yn cynnal yr arbenigedd sydd gennym ni eisoes yn y sector niwclear ond hefyd yn sicrhau bod gennym ni鈥檙 bobl a鈥檙 sgiliau ar gyfer dyfodol clir newydd y DU.鈥
Ychwanegodd yr Athro Bill Lee, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear, 鈥Mae'r Sefydliad Dyfodol Niwclear eisoes yn cydweithio 芒鈥檙 Labordy Niwclear Cenedlaethol ar waith ymchwil i hydroleg thermol - plymio adweithyddion - a thanwydd niwclear sy'n gallu gwrthsefyll damweiniau. Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn ein galluogi i ehangu i feysydd fel meddygaeth niwclear, cyfanrwydd adeileddol, rheolaeth ac offeryniaeth a chydgynhyrchu hydrogen a thanwydd jet o drydan a gynhyrchir gan niwclear. Ymhellach, bydd cefnogaeth y Labordy Niwclear Cenedlaethol i raglen israddedig Peirianneg Gyffredinol newydd Prifysgol Bangor sy'n recriwtio ar gyfer 2023 yn helpu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o beirianwyr i fod yn sylfaen i'r holl dechnolegau carbon isel yng ngogledd Cymru.
鈥淒im ond trwy ddefnyddio safleoedd trwyddedig niwclear allweddol fel Wylfa a Thrawsfynydd y gwireddir gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ynni sicr ac allyriadau carbon Sero Net erbyn 2050. Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn cefnogi cynlluniau i Gymru ddefnyddio鈥檙 safleoedd hyn ar gyfer dyfodol ynni gl芒n y DU.鈥
Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, 鈥Mae ein cysylltiadau cynyddol 芒 Labordy Niwclear Cenedlaethol yn cyd-fynd yn dda 芒鈥檔 gweledigaeth i Brifysgol Bangor fod ar flaen y gad ym maes cynhyrchu ynni carbon isel. Mae gan y rhanbarth eisoes brojectau helaeth ar y gweill ar gyfer cynhyrchu ynni llanw morol, ynni gwynt ar y m么r, solar, a chynhyrchu hydrogen a chaiff ein cynlluniau ar gyfer Egni 鈥 Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel a ariennir drwy Fargen Twf Gogledd Cymru eu cryfhau drwy gydweithio ag arweinwyr ym maes technoleg niwclear megis y Labordy Niwclear Cenedlaethol.鈥
Dywedodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys M么n: 鈥Rwyf wrth fy modd bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn wedi鈥檌 lofnodi rhwng Prifysgol Bangor a鈥檙 Labordy Niwclear Cenedlaethol. Mae gan ein rhanbarth dreftadaeth niwclear gref a bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth niwclear. Bydd gwaith o鈥檙 fath yn helpu i ddatblygu gwyddoniaeth feddygol ac yn cyfrannu at y ras i net sero听trwy gefnogi prosiectau fel gorsafoedd p诺er niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys M么n.鈥
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o Senedd Cymru dros Ynys M么n,听鈥Mae ymchwil mewn i dechnolegau newydd i gynhyrchu ynni o bob math yn hanfodol wrth i ni gynllunio am ddyfodol di-garbon, ac mae鈥檔 bwysig ein bod ni yn gallu elwa o鈥檙 gwaith ymchwil hwnnw yn lleol. Drwy鈥檙 cytundeb hwn, mae Prifysgol Bangor yn parhau i fynnu chwarae rhan flaenllaw yn hynny.鈥