Mae cynllunio rhag llifogydd a rheoli cynlluniau i liniaru llifogydd yn uchel ar agenda'r sector cyhoeddus a’r sector preifat fel ei gilydd ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda'r Cyngor lleol i ddatblygu dull dadansoddeg weledol newydd i fodelu effaith newid defnydd tir ar hydroleg afonydd. a chynnig golwg manwl ar y sefyllfa.
Aeth ymchwilwyr o Ysgolion y Gwyddorau Naturiol a Chyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor ati ar y cyd ag adran ymgynghorol Cyngor Gwynedd , i ddatblygu dull newydd sy’n gymorth o ran gwneud penderfyniadau, sef y 'Pecyn Cymorth Newid Defnydd Tir SWAT+', i helpu gwella cynlluniau a rheoli cynlluniau i liniaru llifogydd yng Ngwynedd sef y sir lle saif y Brifysgol. Mae potensial i’w gyflwyno ymhellach i ffwrdd hefyd.
Meddai Alex Rigby, myfyriwr MSc trwy Ymchwil a ariennir gan KESS 2 yn y Gwyddorau Amgylcheddol, a ddatblygodd y pecyn cymorth gyda chymorth Dr Peter Butcher, Swyddog Ymchwil mewn Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
“Gwelodd Gwynedd lifogydd mawr a niferus, a difrod economaidd yn eu sgil, yn ddiweddar. Fodd bynnag, ni lwyddodd dulliau lliniaru llifogydd y gorffennol i roi cyfrif llawn am gymhlethdod prosesau hydrolegol y dalgylch. Er enghraifft, mae presenoldeb, a chyfluniad gofodol y nodweddion defnydd tir, megis y coedwigoedd, tir amaethyddol, neu’r amgylchedd adeiledig, yn dylanwadu’n fawr ar y ffordd y bydd llifogydd afon yn adweithio i storm fawr
“I ddeall sut y gallai’r llifogydd hynny newid pan fydd defnydd y tir yn newid mewn dalgylch rhaid defnyddio modelau hydrolegol sy’n seiliedig ar egwyddorion ffiseg. Yn anffodus, yn aml mae rhyngwynebau’r modelau hynny i’r defnyddiwr yn feichus ac yn anodd eu defnyddio, ac mae hynny'n cyfyngu ar eu defnyddioldeb fel dulliau cefnogi penderfyniadau i dimau peirianneg, asiantaethau rheoleiddio ac awdurdodau lleol.”
Mae'r 'Pecyn Cymorth Newid Defnydd Tir SWAT+ '(LUCST) yn rhoi sylw i'r mater hwn trwy gyfuno model hydrolegol a ddefnyddir yn helaeth o'r enw'r Dull Asesu Pridd a Dŵr (SWAT+) â dadansoddeg weledol ddatblygedig sy'n symleiddio profiad y defnyddiwr. Mae’r pecyn cymorth yn caniatáu i’r defnyddwyr nodi, trwy Ryngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI), amrywiol fathau o senarios newid defnydd tir mewn dalgylch a mynd ati i feintioli eu heffeithiau hydrolegol trwy ryngweithio â'r model hydrolegol. Yn bwysicach fyth, does dim angen gwybodaeth weithredol fanwl o'r model hydrolegol sylfaenol ar y defnyddiwr i weithredu’r pecyn cymorth.
Cafodd y pecyn cymorth ei dreialu gydag arbenigwyr o Gyngor Gwynedd, ac mae bellach yn rhan annatod o'u gwaith o ran datblygu cynlluniau lliniaru llifogydd at y dyfodol yn ogystal â phrojectau seilwaith eraill. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ystyried defnyddio’r pecyn cymorth.
Dywedodd Alex "Bu’n bleser ac yn brofiad anhygoel gweithio ar y project hwn. Trwy weithio gyda'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Chyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mangor, yn arbennig , datblygais sgiliau digymar, ac mae'r cyfle i roi'r sgiliau hynny ar waith yn ymarferol yn wych o beth trwy fy amser ym Mhrifysgol Bangor.”
Dywedodd Dr Sopan Patil o Ysgol y Gwyddorau Naturiol, prif ymchwilydd y project a phrif oruchwyliwr Alex, “Mae deall sut mae defnydd tir, a newidiadau iddo, yn effeithio ar y prosesau hydrolegol ym masn afon yn hanfodol ar gyfer lliniaru llifogydd. Mae LUCST, fel dull sy’n gymorth i wneud penderfyniadau, yn welliant sylweddol o ran rhwyddineb a phrofi risg llifogydd sy'n deillio o wahanol senarios defnydd tir. Bu’r cydweithio rhyngom â'r arbenigwyr delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn hanfodol o ran sicrhau bod y pecyn cymorth hwn yn hwylus ac yn rhwydd i’w ddefnyddio”.
Ychwanegodd Ritsos Dr Panagiotis (Panos) o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, a fu’n cydoruchwylio Alex a Pete, “Yma yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, rydym yn falch o’r cyfle i ddefnyddio’r arbenigedd sydd gennym mewn dylunio ac adeiladu rhyngwynebau dadansoddeg weledol ar gyfer defnyddiau mor effeithiol. Gobeithiwn y gwnaiff yr offeryn hwn, ac eraill yn y dyfodol, wella ansawdd bywyd ein cymuned. Tydi’r gwaith yr ydym yn ei wneud ddim yn eglur i bobl o ddisgyblaethau eraill weithiau, ac felly mae’n dda cael cyfle i ddangos yr hyn y gallwn ei wneud!”.
Rwy'n falch inni allu cydweithio â Phrifysgol Bangor ar y project hwn. Bydd yn fodd inni sicrhau gwell dealltwriaeth o effaith newidiadau ar y tir ar risg llifogydd at y dyfodol.
Ein nod yn y dyfodol fydd mynd i’r afael â risg llifogydd mewn modd mwy cynaliadwy a fydd hefyd yn gwella ein hamgylchedd, ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r dull newydd hwn i’n helpu ni ganfod atebion ym mhob un o’n dalgylchoedd.
Mae gallu defnyddio arbenigedd academaidd i greu project ymchwil sy'n ymateb i'n hanghenion, yn gyfle gwych i ddangos pa mor werthfawr ydyw bod Prifysgol ar garreg ein drws, a daw’r project hwn â budd gwirioneddol i drigolion Gwynedd a'u heiddo yn y dyfodol.
Ariennir ymchwil Alex gan Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) ac , sef menter sgiliau uwch i Gymru gyfan o dan adain Prifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Caiff ei gyllido'n rhannol gan raglen gydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.