麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:

10 Rheswm Pam Fod Neuaddau Bangor yn Berffaith i Chi

Mwy Na Ystafell

A group of students walking along Garth Pier in Bangor

1. Gwneud Ffrindiau Cyn i Chi Gyrraedd

Mae'r ap Campus Connect yn caniat谩u i chi sgwrsio gyda'ch cyd-letywyr cyn i chi symud yma. Mae hyn yn golygu y gallwch ddechrau gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y Brifysgol, a gall hyn wneud y newid yn haws.

coins

2. Dim Costau Cudd

Mae'ch holl filiau, fel Wi-Fi, chyfleustodau a chynllun yswiriant cynnwys ystafell, wedi'u cynnwys yn y rhent. Efallai fod cyllidebu yn newydd i lawer ohonoch, felly mae hyn yn golygu na fydd yna unrhyw gostau annisgwyl, sy鈥檔 eich galluogi i gynllunio'ch arian yn haws.

A typical kitchen in the Adda block at Ffriddoedd Village

3. Llety o'r Ansawdd Gorau

Mae neuaddau Bangor yn cyrraedd y safonau uchaf ac yn cynnig cefnogaeth ac atgyweiriadau 24/7. Gallwch ganolbwyntio ar fywyd myfyriwr heb boeni am ddiogelwch neu ansawdd eich gofod byw, gan ei gwneud yn haws i setlo mewn.

Peer Guides and new students walking through the Ffriddoedd Student Village during Welcome Week

4. Teimlo'n Ddiogel ac wedi'ch Cefnogi

Mae diogelwch 24/7, wardeiniaid a mentoriaid ar gael yn y ddau bentref myfyrwyr. Mae gwybod bod rhywun yno bob amser i helpu a rhoi cyngor yn rhoi tawelwch meddwl, yn enwedig pan ydych i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf.

Image of ten Campus Life Coordinators posing for a group photo, all wearing their signature orange hoody.

5. Aelodaeth Campws Byw

Mynediad am ddim i bob math o ddigwyddiadau cymdeithasol hwyliog, o nosweithiau pitsa i gystadlaethau carioci. Mae Campws Byw yn ffordd berffaith o gwrdd 芒 phobl newydd a chael hwyl y tu allan i ddarlithoedd, gan ei gwneud yn haws i adeiladu cyfeillgarwch a setlo mewn i fywyd myfyriwr.

Students socialising in one of the flats at St Mary's Student Village

6. Byw gyda Ffrindiau

Gallwch archebu eich ystafell eich hun, felly gofynnwch i'ch ffrind archebu eu un nhw ar yr un pryd i sicrhau eich bod yn agos at ei gilydd. Os ydych yn nerfus am symud i ffwrdd o gartref, gall cael cysur ffrind yn agos wneud byd o wahaniaeth.

Crafnant Halls of Residence at Ffriddoedd Student Village

7. Llety sy'n Addas i Chi

Os rydych yn dymuno, cewch ddewis byw mewn neuaddau tawel, fflat di-alcohol neu ffalt i ferched yn unig. Mae gennych y rhyddid i ddewis llety sy'n cyd-fynd 芒'ch dewisiadau personol ac yn gwneud i chi deimlo'n gyfforddus, beth bynnag sydd yn gwneud i chi deimlo鈥檔 fwy cartrefol.

Canolfan Brailsford gym

8. Aelodaeth AM DDIM i鈥檙 Gampfa

Mae pob myfyriwr yn y neuaddau yn cael mynediad am ddim i'r gampfa. Gallwch gadw鈥檔 ffit ac yn iach yn rhad ac am ddim ac mae ymarfer corff hefyd yn ffordd wych o leddfu straen yn ystod eich astudiaethau.

Students on laptops in the kitchen area at St Mary's halls of residence

9. Hyblygrwydd

Os ydych yn anhapus yn eich ystafell neu neuadd bresennol, gallwch ofyn am symud. Gall symud i'r Brifysgol deimlo鈥檔 gam mawr, ac os nad yw pethau'n teimlo'n iawn, mae gennych yr hyblygrwydd i newid, gan sicrhau eich bod eich ystafell yn yr amgylchedd gorau posibl i chi.

Students sitting together having a drink and socialising in Bar Uno, Ffriddoedd Village

10. Aros am Flwyddyn Arall

Gallwch archebu lle yn ein neuaddau cyfyngedig ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd ar gyfer eich ail, trydydd, neu bedwaredd flwyddyn. Os ydych yn gwerthfawrogi'r cyfleustra a'r awyrgylch cymdeithasol, mae'n ffordd ddelfrydol o aros yn sefydlog a chanolbwyntio ar eich astudiaethau.