Mae ein system archebu yn agor ar 29 Ionawr 2025. Mae hyn er mwyn i bawb gael cyfle teg i archebu’r llety fyddai orau ganddynt. Er mwyn cael mynediad i'r system archebu, rhaid i chi fod wedi dewis Prifysgol Bangor fel eich dewis cadarn yn UCAS. Yna byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r ddolen i'r system archebu.
Ond mae rhai pethau y gallwch eu gwneud cyn hynny – edrychwch ar y canllaw cam wrth gam isod
Ìý
Trefn Gwneud Cais am Lety
Mae’n bwysig darllen y print mân bob amser. Cewch wybod beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi, beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni yn ogystal â chontractau, yswiriant a sut i dalu - mae ein tudalen gwybodaeth hanfodol yn cynnwys hyn i gyd a mwy.Ìý
Rydym yn deall bod hyn i gyd yn newydd i'r rhan fwyaf ohonoch, felly mae gennym hefyd dudalen cwestiynau cyffredin ddefnyddiol iawn.
Peidiwch â gwneud y tro gydag unrhyw ystafell. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth eang o ystafelloedd at ddant pob myfyriwr. Edrychwch trwy’r dewisiadau a dewch o hyd i'r lle perffaith i chi, p'un a ydych eisiau ystafell ymolchi en-suite i chi eich hun, eisiau rhannu ystafell ymolchi neu eisiau amgylchedd astudio tawel. Mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Os oes gennych unrhyw anghenion llety cysylltiedig ag anabledd neu os oes angen addasiadau arnoch, cysylltwch â'rÌýGwasanaethau Anabledd. Mae'n well trafod eich anghenion cyn i chi wneud cais am ystafell mewn neuadd oherwydd gallai hyn effeithio ar y math o ystafell fydd ei hangen arnoch. ÌýMae croeso i chiÌýgysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau cyffredinol.Ìý
A chofiwch, mae’r Tîm Gwasanaethau Anabledd yma i helpu ymgeiswyr anabl a myfyrwyr gyda phob agwedd ar fywyd myfyriwr, nid llety yn unig.
Unwaith y byddwch wedi darllen yr holl wybodaeth hanfodol ac wedi dewis y math o ystafell fyddai orau gennych, byddwch yn barod i wneud cais. Bydd ein system archebu yn agor ar 29 Ionawr 2025. Mae hyn er mwyn i bawb gael cyfle teg i archebu’r llety fyddai orau ganddynt. Er mwyn cael mynediad i'r system archebu, rhaid i chi fod wedi dewis Prifysgol Bangor fel eich dewis cadarn yn UCAS. Yna byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r ddolen i'r system archebu.
Ni fydd rhaid i chi dalu pan fyddwch yn archebu eich ystafell. Cofiwch wneud cais yn gynnar fel bod gennych well siawns o gael yr ystafell fyddai orau gennych.
Rydym yn mewn neuadd i’n holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ond rhaid gwneud cais cyn 31 Gorffennaf. Os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol, bydd hyn yn dibynnu ar fod gennych gynnig cadarn i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Canllaw Gam Wrth Gam
- Bydd ein system archebu yn agor ar 29 Ionawr 2025. Os ydych wedi dewis Bangor fel eich Dewis Cadarn, byddwch yn derbyn e-bost gan y Tîm Neuaddau Preswyl. (Cofiwch hefyd edrych yn eich ffolder jync / sbam)
- . Bydd yr e-bost yn cynnwys eich Rhif Adnabod Prifysgol Bangor sy’n dechrau gyda 500 a hefyd linc i ‘Archebu eich ystafell’ lle byddwch yn cychwyn y broses trwy ‘Gofrestru eich Cyfrif’.
- Ar yr ochr chwith, bydd gofyn i chi roi eich Enw Teulu - rhowch eich cyfenw yn unig yma, ddim eich enw llawn. Bydd gofyn i chi hefyd roi eich dyddiad geni, eich cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair.
- Unwaith byddwch wedi gwneud hyn, bydd e-bost gan y Tîm Neuaddau Preswyl yn cael ei anfon atoch i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost. Cliciwch ar y linc yn yr e-bost i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost.Ìý
- Byddwch wedyn yn mynd o’r e-bost i’r dudalen ‘Mewngofnodi’ lle bydd angen i chi fewngofnodi ar yr ochr dde gydag eich Rhif Adnabod Bangor (y rhif sy’n dechrau gyda 500) a’ch cyfrinair. Pwyswch 'Mewngofnodi'.Ìý
- Efallai byddwch yn dymuno cadw cofnod o’r dudalen yma fel byddwch yn gallu mynd yn ôl ati yn y dyfodol.Ìý
- Byddwch nawr ar y dudalen lle gallwch greu cais am le mewn Neuaddau.
- Cliciwch ‘Cais Newydd’ o dan y flwyddyn berthnasol.Ìý
- Cliciwch ‘Creu Cais’.
- Byddwch yn mynd i dudalen arall gyda’r pennawd ‘Gwybodaeth Amdanoch Chi’Ìý
- Gwiriwch fod eich holl fanylion personol yn gywir.
- Dewiswch yr iaith a ffafrir gennych (Cymraeg neu Saesneg).Ìý
- Unwaith rydych yn hapus bod yr holl wybodaeth yn gywir, cliciwch i fynd ymlaen i’r dudalen nesaf.
- Byddwch nawr ar y dudalen ‘Cyflyrau anabledd / iechyd parhaus - Addasiadau Rhesymol’. Byddem yn gofyn i chi yma os oes gennych unrhyw ofynion yn ymwneud ag anabledd fydd yn effeithio ar y math o ystafell fydd ei angen arnoch.
- Os ydych yn ateb ‘Oes’ i’r cwestiynau ar y dudalen yma, ni fyddwch yn gallu parhau i wneud cais ar-lein a bydd aelod o’r Tîm Neuaddau Preswyl yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion. Ìý
- Os ydych yn ateb ‘Na’ i’r cwestiynau ar y dudalen yma, cliciwch Parhau i fynd ymlaen i’r dudalen nesaf i ‘Ddewis eich Ystafell’.Ìý
- Mae’n amser dewis eich ystafell. Ar yr ochr chwith, gallwch osod eich cyllideb wythnosol am lety ac ar yr ochr dde, gallwch ddewis i weld y mathau gwahanol o lety sydd ar gael. Daw rhestr o’r llety sy’n ffitio eich cyllideb wythnosol a’ch dewisiadau i fyny ar y dudalen.Ìý
- Cliciwch ar y tab Lluniau i weld ym mhle mae’r neuaddau rydych wedi eu dewis wedi eu lleoli. Cliciwch y tab Cyfleusterau i weld pa gyfleusterau sydd ar gael yno.Ìý
- I archebu eich ystafell, cliciwch ar y tab Ystafelloedd a chewch weld cynllun llawr o’r Neuaddau rydych wedi ei ddewis. Ar y gwaelod, ar yr ochr dde, mae bocsys ticio ar gyfer pob ystafell ar y cynllun - byddwch yn gallu ticio’r bocs os bydd yr ystafell ar gael. Ìý Ìý
- Ar ôl i chi dicio’r bocs i ddewis eich ystafell a phan rydych yn sicr eich bod yn hapus gyda’ch dewis, cliciwch Archebu Nawr sydd i’r dde o’r bocsys ticio.
- Bydd gofyn i chi wedyn gadarnhau eich dewis. Cliciwch i barhau os ydych yn hapus gyda’ch dewis. Ni fydd modd mynd yn ôl i newid eich dewis ar ôl i chi gadarnhau.Ìý
- Byddwch wedyn yn mynd ymlaen i’r dudalen nesaf - ‘Eich Cynnig’.
- Yma ceir manylion y telerau ac amodau sy’n gytundeb gyfreithiol-rwym.Ìý
- Darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus ac os rydych yn cytuno, ticiwch y bocs ‘Rwyf wedi darllen a deall y telerau’ a bydd angen rhoi eich rhif adnabod Bangor (sy’n dechrau gyda 500) a chyfrinair yn y man priodol i barhau.Ìý
- Os rydych yn hapus, cliciwch i barhau. Bydd gennych 3 diwrnod i dderbyn y cynnig.Ìý
Gallwch fynd yn ôl i ar unrhyw adeg. Sylwch, ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gallu clicio ar y ddolen 'Eich Ystafell'. Dim ond pan fyddwch wedi symud i mewn y bydd y ddolen hon yn cael ei rhoi ar waith.
Yn y mis Awst cyn i chi symud i mewn i’r neuadd, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth am sesiwn gynefino ar-lein y bydd rhaid i chi ei chwblhau cyn symud i mewn.
Yn y cyfamser, edrychwch ar y dudalen Bywyd Campws a pharatowch at Fywyd Myfyriwr ym Mangor trwy ddysgu mwy am yr ardal, clybiau a chymdeithasau ac .
Ìý