Cyfres newydd S4C 'Cartrefi Cymru' yn archwilio hanes ac esblygiad tai yng Nghymru
Mae Ymchwilydd Doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Bethan Scorey yn sôn am ei rhan yn ‘Cartrefi Cymru’, cyfres deledu Gymraeg newydd sbon am hanes ac esblygiad tai yng Nghymru o gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw. Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ar hyn o bryd, ac mae penodau ar gael i'w gwylio arÌýÌý²¹Ìý.
Dywedwch wrthym am y gyfres ‘Cartrefi Cymru’?
Mae Cartrefi Cymru yn gyfres newydd sbon a wnaed gan y cwmni cynhyrchu BOOM Cymru. Mae’n archwilio hanes ac esblygiad tai yng Nghymru dros ddeg pennod, gan ddechrau yn y cyfnod Tuduraidd yn y bennod gyntaf a symud yr holl ffordd i fyny at dai cyfoes yn y bennod olaf, gan edrych ar ddatblygiadau pensaernïol a chymdeithasol a effeithiodd ar dai ar bob lefel cymdeithasol. Cyflwynir y gyfres gan Aled Samuel, sydd wedi cyflwyno sawl cyfres am dai a threftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys ‘04 Wal’, ‘Cartrefi Cefn Gwlad Cymru’, ‘100 Lle’, ‘Gerddi Cymru’, a ‘Dan Do’. Mae pob pennod hanner awr yn cynnwys tri thŷ, gan gynnwys sgwrs gyda pherchnogion neu feddianwyr tŷ o’r cyfnod dan sylw i glywed am eu profiadau o fyw mewn tŷ hanesyddol.
Beth yw eich rôl ar y sioe, Bethan?
Fi yw’r hanesydd adeiladau ym mhob rhaglen: rwy’n ymddangos ochr yn ochr ag Aled yn hanner cyntaf pob pennod i roi trosolwg o brif ddatblygiadau pensaernïol y cyfnod dan sylw ac i archwilio’r prif dÅ·, cyn i Aled fynd yn ei blaen i weld dau tÅ·Ìýarall yn yr ail hanner. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni i helpu i ddod o hyd i’r tai i’w cynnwys yn y sioe ac i ymchwilio i’r prif dÅ· cyn ffilmio.
Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith teledu o'r blaen neu a yw hon yn fenter newydd i chi?
Mae teledu yn diriogaeth hollol newydd i mi, ac er ei fod braidd yn frawychus, yn fy rôl fel hanesydd rydw i bob amser yn sgwrsio ag Aled yn hytrach na chyflwyno i gamera. Mae dehongli adeiladau hanesyddol yn rhywbeth yr wyf wedi hen arfer â wedi gweithio fel Gofalydd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain FfaganÌýam tua ddeng mlynedd. Yn y rôl hon roeddwn wedi fy lleoli mewn un o'r adeiladau hanesyddol a ail-godwyd er mwyn dehongli'r adeilad hwnnw i ymwelwyr, sy'n rhywbeth a fwynheais yn fawr iawn, yn enwedig helpu pobl i gysylltu ag adeiladau. Mae’r blynyddoedd yn Sain Ffagan yn bendant wedi fy mharatoi ar gyfer y rôl deledu newydd hon, yn enwedig oherwydd mae'r adeiladau a ailgodwyd yn Sain Ffagan mor eang o ran dyddiadau, o dai crwn o'r Oes Haearn i 'prefab' o’r 1940au.
Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am y broses?
Rwyf wedi mwynhau treulio cymaint o amser mewn tai hanesyddol ledled Cymru. Mae bob amser yn fraint cael treulio’r diwrnod mewn adeilad hanesyddol, a cael yr adeilad hwnnw i'ch hun yw’r eisin ar y gacen! Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi cael y pleser o dreulio llawer o amser mewn adeiladau hanesyddol, o weithio yn Amgueddfa Werin Cymru i fy nghwrs gradd feistr mewn Hanes Adeiladau pan oeddem bob amser allan ar dripiau. Ar ôl treulio cymaint o amser yn y llyfrgell yn ysgrifennu fy nhraethawd doethuriaeth yn ddiweddar, braf oedd bod yn ôl yn y lleoliadau hanesyddol hyn. Mae hefyd wedi bod yn wych dod i adnabod Aled a thîm BOOM Cymru, sydd i gyd yn caru hen adeiladau gymaint â minnau; gyda’i gilydd maen nhw wedi gwneud cymaint o sioeau gwych, fel y byddech chi’n cael trafferth dod o hyd i adeilad yng Nghymru nad yw'r un ohonyn nhw wedi bod iddo!
A yw eich ymchwil doethurol wedi cyfrannu at y rôl hon?Ìý
Roedd dwy bennod gyntaf y gyfres – sydd eisoes wedi’u darlledu – yn canolbwyntio ar y cyfnodau Tuduraidd a Stiwardaidd, a gan mai testun fy ymchwil doethurol yw maenordy Elisabethaidd Castell Sain Ffagan, roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus iawn yn ffilmio’r rhain. Yn ogystal â dathlu tai hanesyddol Cymru yn gyffredinol, mae’r gyfres yn cyfleu’r rôl bwysig y mae plastai a thai cysylltiedig wedi’i chwarae yn hanes Cymru, ac yn hyn o beth mae’n bendant yn cyd-fynd â diddordebau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae Cartrefi Cymru a'r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru hefyd yn rhannu'r nod cyffredin o bwysleisio arwyddocâd pensaernïol a chymdeithasol y tai yma. Dechreuwyd y gyfres yn Llancaiach Fawr, sy'n hollol nodweddiadol o dai bonedd yng nghyfnod y Tuduriaid. Fodd bynnag, rhwng ffilmio a darlledu’r bennod, mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili wedi cyhoeddi eu bwriad i gau’r tŷ i’r cyhoedd, rhywbeth y mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ei wrthwynebu’n gryf.
P'un oedd eich hoff dÅ· i ffilmio ynddo?
Rydw i wedi mwynhau’r holl ddyddiau ffilmio am wahanol resymau, ond mae yna rai sy’n sefyll allan. Bu’r drydedd bennod yn archwilio tai Sioraidd yng Nghymru, a’r prif dŷ oedd Llanerchaeron y tu allan i Aberaeron, a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash a gafodd ei adeiladu yn 1790. Mae hwn yn dŷ hynod ddiddorol sy’n edrych yn dwyllodrus o syml ar y tu allan, pan mewn gwirionedd mae llawer o siapiau cyffrous y tu mewn, fel petai Nash wedi dechrau gyda chiwb a cherfio'r ystafelloedd allan. Ond y prif dŷ yn yr wythfed bennod ar y 1960au a’r 1970au oedd fy ffefryn llwyr, oherwydd mae’n dŷ gyda chymaint o liw a phersonoliaeth – fel y byddech yn ei ddisgwyl o’r cyfnod hwn – ac mae diddordebau’r perchnogion wedi’u gwreiddio yn y dyluniad; rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld yr un hwnnw'n cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd.
Beth wyt ti fwyaf balch ohono am y gyfres?
Un o’r pethau rwy’n credu sy’n gwneud i’r gyfres sefyll allan yw ein bod ni'n edrych ar esblygiad tai o gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw dros ddeg pennod gronolegol. Nid dim ond cipluniau o adeiladau o gyfnodau penodol yw’r penodau hyn, ond gobeithio y byddant yn helpu gwylwyr i ddeall pam esblygodd adeiladau dros amser a pham y daeth rhai steiliau pensaernïol i mewn ac allan o ffasiwn dros y canrifoedd.
Beth fu'r prif heriau?
Yn gyffredinol, y brif her i mi fu siarad mor gryno â phosibl. Roedd hyn yn go wahanol i ysgrifennu academaidd lle rwy’n gallu ymchwilio’n ddwfn i bob dadl ac ymhelaethu ar bob pwynt, er mae wedi bod yn hynod werthfawr datblygu’r ddwy set sgiliau. Yn fwy penodol, cyflwynodd y penodau olaf ar dai cyfoes dipyn o her, gan ei bod yn anodd crynhoi’r hyn sy’n nodweddiadol o dai yn y presennol cyn i amser basio. Fodd bynnag, mae'r prif dŷ cyfoes sy'n cael sylw yn y bennod yn wych ac mae fy ngradd israddedig mewn pensaernïaeth wedi rhoi dealltwriaeth i mi o'r broses ddylunio y tu ôl i adeilad cyfoes.
Ìý
Roeddech chiÌýhefyd yn gyfrifol am y darluniau yn y teitlau agoriadol?Ìý
Oeddwn! Dwi hefyd yn darlunio adeiladau hanesyddol, felly braf oedd derbyn y gwahoddiad i gyfrannu at y teitlau agoriadol. Y briff oedd i ‘ddyfeisio’ adeilad i gynrychioli pob pennod, felly mae pob un yn gyfuniad o adeiladau gwahanol o’r cyfnod dan sylw. Ond dim ond y cam cyntaf oedd hwnnw, cyn i'r tîm cynhyrchu cymryd y darluniau hyn a’u harddangos mewn lleoliad 'rustic' i greu’r teitlau agoriadol rhamantus, hyfryd iawn.
Hyd yn hyn rydym wedi gweld cyfnodau'r Tuduriaid, y Stiwartiaid a'r Sioriaid dan sylw, ond beth allwn ni ei ddisgwyl o'r bedwaredd bennod ddydd Mercher?
Yn y bedwaredd bennod byddwn yn edrych ar dai yn y cyfnod Fictoraidd. Y prif dÅ· dan sylw fydd TÅ· Treberfydd yn Llangasty ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn plasty Fictoraidd, mae’n eclectig ac yn llawn deunyddiau, patrymau a lliwiau gwahanol, felly mae’n gwneud cymhariaeth ddiddorol iawn gyda Llanerchaeron o'rÌýbennod flaenorol, sy'n Glasurol ac yn fwy cynnil o ran addurniadau.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu mewn dau hanner - beth allwn ni ddisgwyl o ail hanner y gyfres?
Mae'r hanner cyntaf yn cynnwys sawl plasty, ond yn ail hanner y gyfres byddwn ynÌýsymudwn i mewn i'r ugeinfed ganrif, pan oedd llai o blastai yn cael eu codi; os unrhywbeth, roedd plastai yn cael eu dymchwel! O ganlyniad, mae’r gyfres yn esblygu i ganolbwyntio ar dai torfol a’r datblygiadau cymdeithasol y tu ôl i’r rhain, sy’n ychwanegu dimensiwn arall i’r sioe.
Mae Cartrefi Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Fercher am 8.25y.h. Mae penodau ar gael i'w gwylio ar aÌý. Bydd ail hanner y gyfres yn cael ei darlledu yn gynnar yn 2025.