Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith o bwys ledled y byd yn 么l asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF 2014).
Cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai 鈥済yda鈥檙 orau yn y byd鈥 neu 鈥測n cael ei chydnabod yn rhyngwladol鈥. Ar sail cyflwyniad y brifysgol mewn 14 Uned Asesu cafodd 77% o鈥檙 ymchwil ei gosod yn y ddwy haen uchaf o ran ansawdd ymchwil, sydd yn uwch na鈥檙 cyfartaledd ymysg holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.
Ymchwil yn Ysgolion Gwyddor Chwaraeon; Ieithoedd Modern; Cymraeg; Addysg; Ieithyddiaeth; Gwyddorau Cymdeithas; Gwyddorau Eigion; Gwyddorau Biolegol; Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth; Seicoleg. Mae Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol i gyd wedi eu gosod yn yr 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae鈥檙 ffeithiau canlynol yn tanlinellu enw da Prifysgol Bangor fel prifysgol ymchwil gyda鈥檙 orau yn y byd:
Gosodwyd Bangor y 39ain safle yn y DU (heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig).
Enillodd wyth o鈥檔 14 o gyflwyniadau sg么r GPA (sydd yn mesur ansawdd yr ymchwil) oedd yn fwy na 3.0 allan o uchafswm o 4.0.
Meddai鈥檙 Athro David Shepherd, y Dirprwy i鈥檙 Is-ganghellor sydd yn gyfrifol am ymchwil: 鈥淒yma berfformiad rhagorol gan Fangor ac rydw i鈥檔 arbennig o falch o鈥檙 effaith fawr mae ein hymchwil yn cael ei chael ar draws y byd. O鈥檙 cyfraniad sylweddol a wnawn at wella gofal iechyd a lles, dwyieithrwydd ac amddiffyn yr amgylchedd, mae鈥檔 eglur bod gwaith ymchwil academyddion Bangor yn cael effaith economaidd sylweddol yn ogystal ag effaith ar fywydau pobl o gwmpas y byd.
鈥淩ydw i鈥檔 falch hefyd ein bod wedi dyblu maint yr ymchwil 4* a gyflawnwyd ers cynnal y dadansoddiad diwethaf.
Meddai鈥檙 Is-ganghellor yr Athro John G Hughes: 鈥淢ae鈥檙 perfformiad ymchwil eithriadol hwn yn dod ychydig fisoedd yn unig ar 么l ein canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr lle daeth Prifysgol Bangor i鈥檙 brig yng Nghymru ac i鈥檙 seithfed lle yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr.
鈥淢ae鈥檙 ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Bangor, sydd gyda鈥檙 orau yn y byd, ynghyd 芒鈥檙 lefel uchel o foddhad myfyrwyr a鈥檙 projectau adeiladu newydd pwysig sydd ar y gweill gennym yn gwneud y brifysgol hon yn lle unigryw a hynod atyniadol i astudio a gweithio.
鈥淗offwn i ddiolch i鈥檙 holl staff sydd wedi cymryd rhan yn y broses hon a gallwn fod yn falch iawn o鈥檙 ymchwil o safon uchel sydd yn cael ei gwneud ym Mhrifysgol Bangor.鈥
(*heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion sy鈥檔 cyflwyno mewn un uned asesu鈥檔 unig)