Wythnos Siarad Arian 6-10 Tachwedd 2023
Bob blwyddyn, rydym yn annog staff i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian trwy y hymgyrch Wythnos Siarad Arian. Mae'r wythnos yn rhoi cyfle gwych i bawb ymuno, cychwyn neu arwain sgyrsiau am arian.
Mae thema eleni yn canolbwyntio ar alwad syml i weithredu: gwnewch un peth. Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll neu ddefnyddio un o'r ar wefan Helpwr Arian.
Bwriad Wythnos Siarad Arian
I lawer, cymryd y cam i ddechrau siarad yw'r her gyntaf i'w goresgyn o ran arian.
Mae Wythnos Siarad Arian yn darparu llwyfan i gael sgwrs am arian rhwng teuluoedd a ffrindiau, yn y gwaith neu yn yr ysgol neu unrhyw ran arall o fywyd. Y nod yw grymuso pobl a allai fod yn teimlo'r wasgfa, yn cael trafferth gyda biliau neu'n poeni am y dyfodol, i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
VIVUP
Mae VIVUP, darparwr Rhaglen Cymorth i Weithwyr staff y brifysgol, yn cynnig cyngor cyfrinachol ar ddyledion trwy eu partner allanol Angel Advice. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth .
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Os ydych yn gweithio gyda myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol, atgoffwch nhw fod Uned Cefnogaeth Ariannol y brifysgol yma i gynnig cyngor ac arweiniad.