Mwy am yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio

Dysgu o dan arweiniad ymchwil

Mae gennym gymysgedd o arbenigedd damcaniaethol ac ymarferol ac mae鈥檙 staff yn addysgu yn 么l eu diddordebau ymchwil eu hunain fel cerddolegwyr, cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr theatr a pherfformwyr. Mae ein harbenigedd cerddolegol yn rhychwantu dros 1,000 o flynyddoedd o hanes cerddoriaeth, o blaengan i bync roc. Mae gennym arbenigeddau neilltuol mewn cerddoriaeth gynnar, cerddoriaeth a llenyddiaeth (yn enwedig Shakespeare), y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir, minimaliaeth ac ymarfer creadigol.

Dehonglir cyfansoddi yn ystyr ehangaf y gair, gan gynnwys cyfansoddi cyfoes 'clasurol', electroacwstig, poblogaidd a chymhwysol (gan gynnwys cerddoriaeth a synau i gemau ffilm) a鈥檙 croesffrwythloni rhwng gwahanol genres.

Mae perfformio cerddoriaeth yn rhan ganolog o fywyd yr Adran, a gallwch ei astudio fel unawdydd neu fel cerddor mewn ensemble. Mae myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant unigol gan d卯m pwrpasol o diwtoriaid offerynnol/llais ochr yn ochr 芒 gweithgareddau gweithdai perfformio. Rydym hefyd yn cynnig modiwlau mewn pynciau galwedigaethol megis Gweinyddu'r Celfyddydau a Thechnegau Dysgu.

Mwy am ein hymchwil

Perfformio

Theatre and Performance

Mae ein dull o ddysgu cerddoriaeth yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n rhoi cyfle i berfformio cyfansoddiadau'r myfyrwyr, a rhyngweithio rhwng cerddoriaeth fyw ac electroneg, a pherfformio hanesyddol ei naws sy'n deillio o'n gweithgaredd cerddolegol. Yn ogystal, mae amrywiol weithgareddau allgwricwlaidd, gan gynnwys cerddorfeydd, corau, band pres, band jazz, band cyngerdd a grwpiau opera a鈥檙 theatr gerdd. Mae pedair cymdeithas ddrama hefyd sy'n llwyfannu cynyrchiadau cyhoeddus blynyddol yn theatr fawr Pontio, a chymdeithas ffilm a radio.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Myfyrwyr yn gweithio mewn gofod dysgu i'w rannu, Pontio

Mae'r iaith Gymraeg yn rymus ac yn fywiog ym Mangor, a ni yw'r unig brifysgol lle mae'n bosib astudio gradd Gerddoriaeth yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg. Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gallwch fanteisio ar ein harbenigedd blaengar ym maes astudio cerddoriaeth Gymraeg.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?