Dechreuodd y drafodaeth gyda chyd-destunoli hanesyddol mawr ei angen o鈥檙 etholiad, wrth i Dr Marc Collinson gymharu etholiad 2024 芒 gornest Arlywyddol 1968. Yna, dadansoddodd Dr Gary Robinson a Dr Mari Wiliam y ffordd y mae newyddion ffug, cynllwynio a sloganau wedi gwneud mythau yn ganolog i'r agenda wleidyddol. Buont hefyd yn archwilio鈥檙 cgyhuddiadau ynghylch ffasgiaeth yn ymgyrch Trump, cyn cloi dwy gyferbynnu鈥檙 ras ag Etholiad Cyffredinol Prydain ym mis Gorffennaf 2024.聽
Wrth fyfyrio ar y drafodaeth, dywedodd Dr Marc Collinson, Arweinydd Gwleidyddiaeth yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, 鈥淢ae鈥檔 wych gallu dangos defnyddioldeb gosod etholiadau mewn cyd-destun dyfnach. Maent mor aml yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyfoes, uniongyrchol iawn, ond gan ddefnyddio golwg dreiddgar a dull cymharol, mae鈥檔 ein helpu i wneud mwy o synnwyr o鈥檙 hyn sydd yn digwydd.鈥
Dywedodd Dr Mari Wiliam, Darlithydd Hanes Modern, hefyd, 鈥淢ae ymgyrch etholiad arlywyddol UDA 2024 yn teimlo鈥檔 bwysig iawn, ac mae wedi bod yn hynod gyffrous i wylwyr gwleidyddol. 聽Mae hefyd wedi bod yn llethol o ran y m脿s o wybodaeth, delweddau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial a thwyll ar y cyfryngau cymdeithasol yn ein llethu. 聽Roeddwn i'n meddwl bod y drafodaeth gyda Marc a Gary yn werthfawr iawn o ran tynnu sylw at them芒u allweddol yr ymgyrch drwy edrych ar eu hatseiniau yn y gorffennol. Roedd hefyd yn wych cael ein cynulleidfa i rannu eu barn am agosrwydd y ras arlywyddol a鈥檌 goblygiadau.鈥
Roedd Dr Gary Robinson, Uwch Ddarlithydd Archaeoleg hefyd yn cytuno, "Cawsom drafodaeth dda am ymgyrch etholiadol bresennol yr Unol Daleithiau neithiwr, ymgyrch a ddominyddwyd gan rethreg o ddweud celwydd cyhoeddus ac ymhelaethu ar y cyfryngau. Mae rhethreg o'r fath yn arwain at ddiffyg ymddiriedaeth gyhoeddus yn sefydliadau democratiaeth, a'r anallu i wahaniaethu rhwng realiti a rhith - mae hwn yn sicr yn mynd i fod yn etholiad diddorol ac arwyddocaol!"
Roedd hon yn drafodaeth wych a byddwn yn cadw llygad barcud ar y canlyniadau a鈥檙 ymatebion difyr a fydd yn si诺r o ddod yn fuan iawn.