Rhagolwg
Mi nes i benderfynu astudio Hanes yn y Brifysgol am y rheswm syml fy mod i'n mwynhau'r pwnc, a dwi dal yn ei fwynhau: ma' 'na wastad bethe newydd i'w dysgu, ac mae'r chwilfrydedd yma'n help i ddeall y byd heddiw. Felly, dros 20 mlynedd ers i mi ddod i Brifysgol Bangor fel myfyriwr is-radd (wedyn MA a PhD) dwi dal yma, ac yn Ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ers 2013. Â
Dwi'n edrych yn bennaf ar hanes o ddiwedd oes Victoria hyd at ddechrau'r 21ain ganrif, ac mae gen i ddau brif ddiddordeb yn fy ymchwil ac addysgu. Yn gyntaf, edrych ar hunaniaethau cenedlaethol, yn benodol yng Nghymru. Yn ail, archwilio hanes bywyd-bob-dydd, sy'n rhoi golwg i ni ar sut mae pobl wedi byw yn y gorffennol. Gyda'i gilydd mae hyn yn golygu fod llawer o fy modiwlau i'n eclectig o ran cynnwys, ac efo trafodaethau am bynciau sy'n ymestyn o genedlaetholdeb, y frenhiniaeth, datganoli a rhywedd i feysydd fel y diwydiant niwclear, astudiaethau tirlun a hanesion bwyd, anifeiliaid a thatŵs. Â
Ymysg y modiwlau sydd gen i ar y llyfrau mae Cymru yn y Byd Modern; Ail-Danio'r Ddraig: Cymru wedi 1939; Britain in the Jazz Age; Nationalism in the UK a Raving in the 1990s. Ar lefel MA dwi'n cydlynu modiwl hanes Cymru sef Global Wales. Dwi'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac wrth fy modd yn addysgu'n Gymraeg ac yn Saesneg.
Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu monograff ar ogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1950 a 1962, yn ymwneud efo projectau hanes llafar trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ac yn cydweithio ar ymchwil i gymunedau niwclear yng ngogledd Cymru. Dwi'n mwynhau sgwrsio am fy ymchwil efo cymdeithasau hanes lleol ac ysgolion. Dwi hefyd yn cyfrannu ar y teledu a radio i drafod pynciau fel y frenhiniaeth a chenedlaetholdeb.
Dwi'n ffodus i fod yn goruchwylio ymchwilwyr PhD talentog, sy'n edrych ar feysydd megis hanes mynydda a chenedlaetholdeb adain dde. Rwyf hefyd yn cyd-oruchwylio nifer o ddoethuriaethau ISWE ar bynciau megis sgwatwyr & aneddiadau gwledig a merched mewn amaethyddiaeth. Â
O ran fy ngwaith gweinyddol yn y Brifysgol, dwi'n Diwtor Derbyn Hanes ac yn gydlynydd Hanes/Treftadaeth ym Mangor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Â
Addysgu ac Arolygiaeth
BA
- Cymru yn y Byd Modern / Wales in the Modern WorldÂ
- Ail-Danio'r Ddraig/ Re-igniting the Dragon
- Britain in the Jazz Age
- Nationalism in the UK
- Raving in the 1990s? Â
- Making History
- Crefft yr Hanesydd
²Ñ´¡Ìý
- Global Wales
- People, Power and Political Action
- Documents and Sources Modern
- Themes and Issues
Diddordebau Ymchwil
- Cenedlaetholdeb yr 20fed ganrif
- Y Frenhiniaeth
- Protest a'r iaith Gymraeg
- Datganoli
- Hanes tirlun a gwledigrwydd
- Cymunedau niwclear
- Gogledd-ddwyrain Cymru
- Hanes anifeiliaid
- Hanes bywyd bob dydd (e.e. tatŵs, bwyd, chwaraeon).
Cyhoeddiadau
2024
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., 1 Medi 2024, Y Faner Newydd, 109, t. 14-17.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - Cyhoeddwyd
Wiliam, M. & Collinson, M., 6 Maw 2024, The Conversation.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - Cyhoeddwyd
Wiliam, M., Mai 2024, Yn: Hanes Byw. 4, t. 20-21
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2023
- Cyhoeddwyd
Collinson, M., Wiliam, M., Evans, S., Williams, C. & Rowland, M., 27 Ion 2023, Rural History Today, 44, t. 5-6.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - Cyhoeddwyd
Wiliam, M., Medi 2023, Yn: Hanes Byw. 1, t. 18-21
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2022
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., 4 Ebr 2022, Yn: Cultural and Social History. 19, 3, t. 301-322
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2021
- Cyhoeddwyd
Collinson, M. & Wiliam, M., 2021, Yn: Innovative Practice in Higher Education. 4, 2, t. 239-262 8.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd
Collinson, M. & Wiliam, M., 14 Medi 2016.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
2015
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M. E., Williams, C. (Golygydd) & Edwards, A. (Golygydd), 1 Awst 2015, The Art of the Possible: Politics and Governance in Modern British History: 1885-1997: Essays in Memory of Duncan Tanner. 2015 gol. Manchester University Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2014
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M. E., 1 Rhag 2014, Yn: Welsh History Review. 27, 2, t. 383-386
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2009
- Cyhoeddwyd
Tanner, D. M., Wiliam, M. E., Flinn, A. (Golygydd) & Jones, H. (Golygydd), 1 Ion 2009, Freedom of Information: Open Access: Empty Archives?. 2009 gol. Routledge, t. 54-74
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Gweithgareddau
2024
Presentation on a history of nuclear energy production in north Wales. Delivered to the Telford Centre Winter Lecture series.
13 Tach 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Sgwrs yn Palas Print, Caernarfon.
30 Medi 2024
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)Sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Aled.
23 Medi 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Bydd y ddarlith hon yn bwrw golwg ar arwyddocâd Pen Llŷn a’i thirlun i ddelfrydau o Gymreictod a gwledigrwydd yn ystod canol yr 20fed ganrif, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y trafodaethau yn ystod y 1950au a’r 1960au ynghylch gosod atomfa niwclear ger Edern. Bydd hyn yn cael ei gyferbynnu gydag enghreifftiau eraill cynhennus o ‘foderneiddio’ golygfeydd Pen Llŷn, megis yr Ysgol Fomio ac ymlediad twristiaeth yn y fro. Holodd Baner ac Amserau Cymru yn 1957 ‘Pa lanast yw peilonau’, gyda’r cwestiwn yna’n greiddiol i drafodaethau ingol am enaid Pen Llŷn, diboblogi gwledig a’r frwydr am ‘fara’ neu ‘harddwch’
This lecture will take a look at the significance of Pen LlÅ·n and its landscape to ideals of Welshness and rurality during the middle of the 20th century, focusing particularly on the discussions during the 1950s and 1960s regarding the installation of a nuclear power station near Edern . This will be contrasted with other controversial examples of 'modernisation' of Pen LlÅ·n scenery, such as the Bombing School and the spread of tourism in the area. Baner and Amserau Cymru asked in 1957 'What a mess pylons are', with that question at the core of poignant discussions about the soul of Pen LlÅ·n, rural depopulation and the battle for 'bread' or 'beauty'.
6 Gorff 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)The future of relatively ‘clean’ nuclear energy is of the greatest importance to our national economy and our path toward ‘net zero’. The rate of development of nuclear energy in Britain since the 1960s has been significantly affected by societal attitudes. This talk will consider the history and local impacts of three nuclear power stations in North Wales: Trawsfynydd, Wylfa and Edern (a station proposed for the LlÅ·n Peninsula that was never built, but was a notable feature of the nuclear discourse). Based on recent research at Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ, the talk will examine the repercussions of the industry on landscape, language and local politics from the 1950s to the 1980s.
21 Maw 2024
Cysylltau:
Sgwrs i ddisgyblion ysgol ar y cynllun Seren
28 Chwef 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)Sesiwn blasu addysg i oedolion
2024
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)Sgwrs 45 munud i gynhadledd Blwyddyn 12 Prifysgol Bangor
2024
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
2023
2023 – 2027
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2022
The Bodorgan Estate (https://www.bodorgan.com/) located in south-west Anglesey has received a Welsh Government grant to construct a new public footpath through part of the estate, linking to the existing Wales Coast Path. The development of the footpath infrastructure will proceed alongside a programme of habitat restoration. The route will embrace several important landscape features, linked to the social, cultural and economic history of Anglesey. The project is committed to sharing this landscape history with future users of the footpath through the installation of appropriate heritage interpretation along the route. The Bodorgan Estate is collaborating with Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ’s Institute for the Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ of Welsh Estates (http://iswe.bangor.ac.uk/) to deliver these objectives.
The Project Team (Shaun Evans, Marc Collinson, and Mari Wiliam) advised and supervised the work of two paid postgraduate interns (Matthew Rowland and Catrin Williams). They undertook archival work at Bodorgan and interviewed members of the local community to provide historical information and oral testimony to aid the creation of heritage interpretation along the path and online. Members of the team intend to produce academic-level publications in due course.
1 Awst 2022 – 31 Rhag 2022
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol (Cynghorydd)
Personol
Dwi'n mwynhau garddio (yn arbennig blodau) ac wedi gwirioni ar anifeiliaid: mae gen i gŵn ac ieir. Dwi hefyd yn ffan mawr o bêl droed. Mae llawer o'r diddordebau yma'n ymddangos yn fy nysgu ac ymchwil yn ogystal!