Gweledigaeth y dyfodol ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru (YFGC) ac yn gyffrous i gynnal digwyddiad agored, yn archwilio rôl y cyhoedd mewn ymchwil gofal iechyd, a’n gweledigaeth ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol.
Mae cefnogaeth gan aelodau’r cyhoedd yn hanfodol i sicrhau bod ymchwil yn cael ei gynnal yn effeithiol, ac mae ymgysylltu da gyda’r gymuned o’n cwmpas yn ffocws craidd wrth i ni ddatblygu ein Hysgol Feddygol Gogledd Cymru sydd newydd ei ffurfio. Ymunwch â ni lle byddwn yn dathlu effaith a chyflawniadau PARC-Bangor, ein grŵp cynghori cyfredol ar gynnwys y cyhoedd, ac yn edrych ymlaen at sut y byddwn yn parhau i ymgysylltu â chleifion, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o'r teulu wrth i ni barhau i dyfu. Bydd trafodaethau agored a bydd mynychwyr yn cael y cyfle i helpu i lunio ein strategaethau cynnwys y cyhoedd AGIC a NWORTH.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dr Zoë Hoare (Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr NWORTH/Prif Ystadegydd), Dr Kirstie Pye (Rheolwr CTU NWORTH), Dr Nia Jones (Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Feddygol ac Arweinydd Rhaglen Feddygol AGGA) a’r Athro Stephen Doughty (Athro a Rhaglen Fferylliaeth AGGA). Bydd Rebecca Burns, Rheolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ym
chwil Iechyd a Gofal Cymru () yn ymuno â ni hefyd i archwilio datblygiad cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil sy’n digwydd ledled Cymru.
Croeso i holl staff a myfyrwyr. Edrychwn ymlaen at eich gweld.
Ìý
Ìý
Ìý