Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r LLB carlam 2 flynedd wedi ei gynllunio i unigolion sydd â chymhwyster addysg uwch flaenorol neu brofiad proffesiynol cyfatebol ac sydd bellach eisiau dysgu am fyd y gyfraith. Mae'r radd yn cynnig yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad i chi ddilyn eich diddordebau, fel cyfreithiwr, neu yn yr amrywiol feysydd eraill lle mae gradd yn y gyfraith yn werthfawr iawn. Yn ogystal â datblygu sgiliau cyfreithiol, bydd ein cysylltiadau cryf â phroffesiwn y gyfraith a diwydiant yn sicrhau cyfleoedd ymarferol cyffrous ar gyfer profiadau 'byd go iawn' a fydd yn sylfaen i lwybr gyrfa o'ch dewis.
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i feithrin eich annibyniaeth ddeallusol. Cewch eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau fydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol, i ofyn ac ateb cwestiynau effeithiol am y gyfraith a'i chyfraniad at gymdeithas, ac i gyfleu eich dadleuon rhesymegol mewn modd effeithiol, ar lafar neu'n ysgrifenedig.Â
Byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o egwyddorion a gwerthoedd y gyfraith a chyfiawnder, a byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio'r gyfraith er budd unigolion a chymdeithasau, gan gynnwys rhai sydd fwyaf ar gyrion ein cymuned.Â
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio meysydd gwybodaeth gyfreithiol sylfaenol.ÌýÌýEr enghraifft, yn y modiwl cyfraith gyhoeddus byddwch yn dysgu am sut mae'r wlad yn cael ei threfnu a'i rhedeg; mae’r modiwl cyfraith droseddol yn cynnwys archwilio cosbau ac adsefydlu unigolion sy'n torri'r gyfraith, ac yn y modiwl cyfraith contractau byddwch yn dysgu am sut mae cytundebau cyfreithiol yn cael eu gwneud ac yn gweithredu rhwng pobl a chwmnïau.ÌýÌýÂ
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis o fodiwlau opsiynol cyffrous y gyfraith fel cyfraith ryngwladol, cyfraith fasnachol, hawliau dynol, athroniaeth y gyfraith a chyfraith teulu.ÌýÌýOs dewiswch ein modiwl lleoliad gwaith, cewch gyfle i gael profiad gwaith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
Byddwch yn cymryd rhan gweithredol yn eich dysgu. Nid eistedd a darllen mo'r cyfan. Byddwch yn dysgu sgiliau dadlau, eirioli a thrafod trwy amrywiaeth o gyfleoedd fel rhan o weithgareddau modiwlau a gweithgareddau allgyrsiol.ÌýÌýByddwch hefyd yn elwa o weithgareddau datblygiad proffesiynol, teithiau i'r llywodraeth a sefydliadau barnwrol, ac amrywiaeth eang o siaradwyr gwadd.ÌýÌý
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Amgylchedd astudio cefnogol gydag ystafell ffug-lys bwrpasol, llyfrgell y gyfraith a dosbarthiadau bach sy'n galluogi cysylltiad didrafferth â'r darlithwyr.
- Cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o bob modiwl gorfodol y gyfraith, a gellir astudio rhai o'r modiwlau dewisol yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau addysgu trwy gydol eich cwrs, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau bach (tiwtorialau), amgylcheddau dysgu ar-lein, astudio hunangyfeiriedig neu gydweithredol, dysgu trwy brofiad a dysgu ar sail problemau.ÌýÌýÂ
Bydd eich wythnos arferol yn cynnwys deuddeg awr o ddarlithoedd ynghyd â thiwtorial bob pythefnos fydd yn para am awr.Â
Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn meithrin sgiliau hunanreoli, gan gynnwys y gallu i adfyfyrio ar eich dysgu eich hun, gwneud defnydd effeithiol o adborth a'r gallu i weithio mewn tîm.ÌýÌýÂ
Byddwch yn datblygu'r gallu i wneud ymchwil annibynnol, gan gynnwys nodi materion sy'n gofyn am ymchwilio, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a chwilio am wybodaeth berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau priodol, gan gynnwys ffynonellau cyfreithiol sylfaenol.Â
Bydd lefel yr her a'r cyflawniad yn cynyddu'n raddol i chi trwy gydol eich cwrs.Â
Bydd ein gweithdrefnau dysgu, addysgu ac asesu yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod wedi dysgu'r sgiliau a'r rhinweddau angenrheidiol yn eich cwrs.ÌýÌýRydym yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer cynhwysol ac yn sensitif i ofynion cyfle cyfartal yn unol ag arfer da a rhwymedigaethau deddfwriaethol perthnasol.Â
Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu i bennu eich cyflawniad cyffredinol; gall yr asesiadau hyn fod wedi eu hamseru neu ddim, wedi eu gweld ymlaen llaw neu ddim, yn barhaus neu'n seiliedig ar arholiadau.ÌýÌýÂ
Gallai'r tasgau fydd gofyn i chi eu gwneud gynnwys traethodau ac adroddiadau o hyd amrywiol; nodiadau achos; dehongliad statudol; briffiau; beirniadaeth o erthyglau; cyflwyniadau llafar/fideo; dadleuon; asesiadau ar sail sgiliau; cyfnodolion dysgu adfyfyriol; project ymchwil/traethawd hir; ac asesiadau gwaith/clinig.Â
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn un bydd myfyrwyr yn cymryd 120 credyd o'r pynciau canlynol, Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Cyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefn, Sgiliau Cyfreithiol, Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Camwedd.
Yn yr ail flwyddyn bydd myfyrwyr yn cymryd 75-80 credyd o'r pynciau canlynol, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Tir, Cyfraith yr DU, Yr Undeb Ewropeaidd a Brexit a Sgiliau Proffesiynol Ymarferol. Mae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megis Cyfraith Cymru, Cyfraith Datganoli, Cyfraith Fasnachol, Tystiolaeth Droseddol, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, Cyfraith, Cyfiawnder a Hawliau, Cyfraith y Cyfryngau, Cyfraith ac Ymarfer Busnes, Traethawd Hir, Arfer Eiddo, Ewyllysiau ac Ystadau a Lleoliad Gwaith.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Â
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Y Gyfraith
- Mae gennym lyfrgell y Gyfraith wedi'i lleoli yn hyfrydwch Ystafell Ddarllen Lloyd ym mhrif lyfrgell y Celfyddydau, y buddsoddwyd ynddi’n sylweddol gan y Brifysgol a chymwynaswyr eraill.
- Mae Llyfrgell y Gyfraith yn darparu ffynonellau print ac electronig i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr, a chaiff ei datblygu’n gyson i adlewyrchu’r gweithgareddau addysgu ac ymchwil diweddaraf ym maes y Gyfraith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dogfennau cyfeiriol, statudau, adroddiadau’r gyfraith, cyfnodolion, gwerslyfrau, pamffledi, adroddiadau’r llywodraeth, papurau newydd a chronfeydd data cyfreithiol ar-lein.
- Ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil fanylach ar lefel Meistr neu PhD, mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol a nifer o ffynonellau gwreiddiol.
- Ystafell ffug lys bwrpasol sy'n galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Mae Ystafell y Ffug Lys yn caniatáu i'n myfyrwyr ymarfer cyflwyno achosion mewn lleoliad priodol, cymryd rhan mewn treialon, cynrychioli’r partïon a dysgu sut i ymddwyn mewn llys barn.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
- Gradd gyntaf (2.ii neu uwch) mewn pwnc arall o Brifysgol Bangor neu sefydliad achrededig arall.
- Ystyrir myfyrwyr hÅ·n gyda phrofiad perthnasol.
Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
- Gradd gyntaf (2.ii neu uwch) mewn pwnc arall o Brifysgol Bangor neu sefydliad achrededig arall.
- Ystyrir myfyrwyr hÅ·n gyda phrofiad perthnasol.
Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd yn gyfraith o Fangor yn agor posibiliadau gyrfa cyffrous yn y gyfraith ac mewn llawer o feysydd eraill lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac i'r blaned.Â
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Efallai yr hoffech weithio yn y sector cyhoeddus fel cyfreithiwr y llywodraeth, neu yn y sector preifat, ac arbenigo mewn cyfraith fasnachol, cyfraith mewnfudo neu gyfraith droseddol.ÌýÌý
Os nad ydych eisiau ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, efallai yr hoffech weithio mewn maes lle byddai eich hyfforddiant a'ch gwybodaeth gyfreithiol yn fanteisiol a lle gallwch weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae llawer o sefydliadau anllywodraethol (elusennau) eisiau pobl â chefndir cyfreithiol i weithio fel swyddogion polisi, ymgyrchwyr a gweithwyr cynghori.ÌýÌýMae sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n chwilio am yrfa ryngwladol.Â
Fel rhywun â gradd LLB yn y gyfraith, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd gyrfa mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â'r gyfraith ond y mae'r sgiliau cyffredinol a deallusol a ddysgwyd wrth astudio am radd yn y gyfraith yn eich gwneud yn gymwys dros ben.ÌýÌýGall y rhain gynnwys y gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwydiannau creadigol, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth carchardai.Â
Ym Mangor rydym yn gweithio'n galed i sicrhau eich bod yn cael gwybod am y nifer fawr o gyfleoedd sydd ar gael.Â
- Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y brifysgol yn darparu gwybodaeth hanfodol i chi er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniadau allweddol am eich dyfodol.Â
- Mae Swyddog Cyflogadwyedd yr ysgol yn gweithio i gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i brofiad gwaith, yn cynnwys interniaethau a lleoliadau.Â
- Os byddwch yn cymryd y modiwl lleoliadau gwaith, cewch gyfle i gael profiad o waith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
- Mae'r Swyddfa Gwirfoddoli Myfyrwyr yn cynnig llawer o gyfleoedd i weithio gyda'r gymuned leol.Â
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.