Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae poblogaethau bywyd gwyllt ar draws y blaned wedi gostwng bron i 70% ers 1970. Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod rhaid i ymdrechion cadwraeth fod yn fwy effeithiol a phenodol er mwyn helpu i arafu a gwrthdroi’r fioamrywiaeth a gollir. Mae angen arbenigwyr cadwraeth sydd â gwybodaeth ardderchog am ecoleg a dealltwriaeth o'r ffactorau economaidd-gymdeithasol sy'n sail i gadwraeth lwyddiannus i gwrdd â'r heriau hyn.
Mae ein cwrs Cadwraeth ac Ecoleg Bywyd Gwyllt newydd yn seiliedig ar flynyddoedd o arbenigedd ymchwil ac addysgu ymroddedig ym maes ecoleg a chadwraeth ddaearol ac ecoleg a chadwraeth forol. Yma ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o agweddau eang a rhyng-gysylltiedig ar ecoleg a chadwraeth - gyda phwyslais ar amgylcheddau daearol a morol. Mae’r themâu pwysig yn cynnwys ecoleg ac esblygiad, yn ogystal â newid ymddygiad, cadwraeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cydfodolaeth dynol-bywyd gwyllt, a pholisi cadwraeth rhyngwladol.
Mae ein lleoliad, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg a chadwraeth y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Rydym yn cynnal dosbarthiadau ymarferol mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd (o’r arfordir i’r mynyddoedd) ac mewn amrywiaeth o leoliadau cadwraeth (yn sŵau a gwarchodfeydd natur). Rydym yn cynnal cyrsiau maes dewisol mewn cadwraeth drofannol sy'n defnyddio ein degawdau o gydweithio rhyngwladol mewn rhanbarthau trofannol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs gradd hwn?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall yn rhan o'n tîm addysgu.
- Teithiau maes – mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys Arizona, Florida, India, Canada neu’r Caribî.
- Mae ein lleoliad yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o sefydliadau cadwraeth lleol gan gynnwys Sw Gaer, yr ymddiriedolaethau natur, yr RSPB, a’r Sw Mynydd Cymru, sy’n helpu myfyrwyr i gael profiad o gadwraeth gan y rhai sy’n gweithio yn y maes.
- Mae gennym gysylltiadau ardderchog â sefydliadau cadwraeth ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Colombia, Ghana, Kenya a Bangladesh.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn astudio modiwlau fydd yn cynnwys 120 o gredydau’r flwyddyn a fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â theithiau maes a thiwtorialau.Ìý Mae modiwlau'n mynd yn fwy arbenigol wrth i'r radd fynd yn ei blaen.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol, gan osod y sylfaen i adeiladu eich gradd. Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, yn ogystal â modiwlau gorfodol, byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â'ch diddordebau craidd. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i chi ennill set o sgiliau ac arbenigedd sy'n unigryw i chi. Asesir trwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol ac asesu parhaus. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.
Ìý
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Byd Natur gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.ÌýÌý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy’n cynnwys 18 hectar o dir ar lannau'r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy addysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol yn 252 hectar o faint. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth yr iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch redeg arbrawf ar raddfa fawr ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio i brojectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.ÌýÌý
- Mannau a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd pryfetach.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan ymchwil myfyrwyr bwrpasol ar gyfer gwaith traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddi, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain – sy’n cael ei ystyried yn un o’r goreuon yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o’n cyfleusterau gorau yw’r amgylchedd ar garreg ein drws – cewch gyfle i ymweld â chymaint o wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a’ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys: labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddi pwrpasol.
Ìý
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Gan gynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau Amgylcheddol, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegaeth, Seicoleg); ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth neu Reoli Anifeiliaid)**: MMM - DDM
- Extended Cambridge Technical Diploma mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reoli Anifeiliaid)**: MMM - DDM
- Extended Cambridge Technical Diploma mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM – DDM
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Rhaid cael marc llwyddo, gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddoniaeth.
- Mynediad: Ystyrir cyrsiau mynediad yn seiliedig ar Wyddoniaeth/Amgylchedd.
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir Lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen megis diploma City & Guilds,Ìý diploma Access a Cambridge Technical Diploma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau rhyngwladol.
*Ewch i i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Gyrfaoedd
Bydd graddedigion y cwrs hwn yn datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â sefyllfaoedd labordy a/neu faes sydd â galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, gan gynnwys: y gallu i gynllunio, gweithredu ymchwil wyddonol, casglu'r data angenrheidiol yn ddiogel ac yn foesegol, cyflawni'r dadansoddiad ystadegol perthnasol, ac adrodd ar ganlyniadau mewn modd cryno, clir a manwl gywir. Byddwch hefyd yn gallu llunio cwestiynau ymchwil yn gywir, nodi dulliau priodol ar gyfer eu hateb, a defnyddio gwybodaeth wyddonol a chymdeithasol i lywio penderfyniadau a rheolaeth.
Gall gyrfaoedd perthnasol yn y dyfodol gynnwys rheolwyr amgylcheddol, ecolegwyr neu gynghorwyr cadwraeth mewn cyd-destunau daearol a dyfrol, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Neu, efallai y byddwch yn dewis parhau â’ch astudiaethau a gwneud ymchwil pellach.
Mae'n bosib cymryd y cwrs naill ai fel gradd tair blynedd neu dros bedair blynedd gyda blwyddyn ar leoliad yn gweithio gyda sefydliad cadwraeth perthnasol yn y Deyrnas Unedig neu dramor.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am le ar y cwrs Gwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Ìý